Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

Galw am gymorth i fusnesau Aberconwy yn dilyn cyhoeddiad £650 miliwn Llywodraeth y DU

  • Tweet
Monday, 15 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (15 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi egluro'r angen am ragor o gymorth i fusnesau ar hyd a lled yr etholaeth, yn dilyn cyhoeddiad digynsail gan Lywodraeth y DU y bydd yn darparu £650 miliwn yn ychwanegol i'r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â Coronafeirws. 

Daw'r cyhoeddiad wedi i Lywodraeth y DU gyflwyno gwarant ddigynsail ymlaen llaw ym mis Gorffennaf 2020 er mwyn rhoi sicrwydd ariannol i'r weinyddiaeth ddatganoledig i ymateb i Covid-19. Yr wythnos ddiwethaf, mewn cwestiwn i'r Gweinidog Cyllid, pwysodd yr Aelod am ymrwymiad o gymorth ariannol a "llwybr tuag at adfer" sy'n benodol i'r sector. 

Wrth gyflwyno'r achos dros gymorth busnes, dywedodd Janet:  

“Rydw i'n croesawu'n frwd y cyhoeddiad pwysig hwn am gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU; ac rydw i'n sicr y bydd fy nghyd-breswylwyr a'r busnesau niferus sydd wedi dioddef ers amser maith ar hyd a lled Aberconwy yr un mor frwdfrydig eu croeso i’r newyddion hyn. 

“Yn hanfodol, mae'r gyfran bellach hon o gymorth wedi cyrraedd ar ben y £655 miliwn o gyllid Covid-19 a ddaeth i law y llynedd ac na chafodd ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru cyn misoedd y Gaeaf. Mae'n rhaid i Weinidogion ym Mae Caerdydd fynd ati nawr i roi manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario. 

“Er bod darpariaethau angenrheidiol i fyrddau iechyd y GIG a llywodraeth leol yn debygol o gyfrif am gyfran fawr o'r cyllid sydd heb ei ddyrannu yn eu Cyllideb derfynol, dylem gofio hefyd mai bwriad yr arian hwn hefyd oedd cefnogi busnesau Cymru a'r sectorau hynny sydd ar ymyl y dibyn. 

“Gyda chydnabyddiaeth bod Llywodraeth y DU wedi cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru cyn y cyhoeddiad hwn, byddaf yn awr yn pwyso am sicrwydd y bydd cymorth pellach i fusnesau sector-benodol yn cael ei gynnwys yn eu cyllideb, sydd i fod i gael ei chwblhau yfory.” 

Diwedd 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Ceir esboniad llawn o warant Barnett yma.
  • Ar 21 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22. Cadwodd Llywodraeth Cymru gyfran sylweddol o gyllid Covid-19 heb ei dyrannu, wrth iddi asesu "llwybr y pandemig dros fisoedd y gaeaf.” Bydd angen gwneud dyraniadau ychwanegol sylweddol yn y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2021-22 a bennwyd ar gyfer 2 Mawrth, yn ogystal ag mewn cyllidebau atodol diweddarach. Gallwch ddod o hyd i fwy o ddadansoddiadau ar y mater hwn, drwy glicio yma. 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

  • Local News

You may also be interested in

Janet Finch-Saunders MS

Aberconwy MS on need for action after Chancellor’s “fantastic” Budget statement

Thursday, 4 March, 2021

Janet Finch-Saunders MS – the Member of the Welsh Parliament for Aberconwy – has welcomed the Chancellor’s Budget statement, which provided an extra £740 million of funding to the Welsh Government. 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree