Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Galw am sefydlu Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol i Gymru yn dilyn ymosodiad ciaidd ar dda byw

  • Tweet
Monday, 18 January, 2021
Olena Shmahalo on Unsplash

Yn dilyn honiadau o ymosodiad difrifol gan gŵn ar dda byw dros y penwythnos, mae Janet Finch-Saunders AS, y Gweinidog Cysgodol dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, heddiw (18 Ionawr) wedi ailadrodd ei galwadau ar Lywodraeth Cymru i gysylltu â swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU gyda'r nod o sefydlu Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol i Gymru. Daw hyn wedi i ffermwr dorri'i galon ar ôl i hanner cant o'i famogiaid gael eu lladd mewn ymosodiad erchyll gan gŵn. Yn ôl neges twitter, mae Heddlu Gwent wrthi'n ymchwilio i'r mater a ddigwyddodd yng ngogledd Sir Fynwy ddydd Sadwrn 16 Ionawr 2021.

Ar hyn o bryd, nid yw Grŵp Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol fel Awdurdodau Lleol a Chynghorau Tref a Chymuned. Gan adlewyrchu'r gofid yn y system, canfu Arolwg Troseddau Gwledig y Gynghrair Cefn Gwlad 2020 nad oedd bron i chwarter y troseddau gwledig yn cael eu hadrodd i'r Heddlu. Atgoffir ffermwyr y gallant roi gwybod am bob ymosodiad da byw drwy ffonio 101.

Gan ategu'r angen am weithredu pellach, dywedodd Janet:

“Yn dilyn ymosodiad ffyrnig a chreulon ar dda byw Cymru dros y penwythnos, rwyf unwaith eto wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gysylltu â swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU gyda'r nod o sefydlu Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol i Gymru. Dylai'r dull plismona newydd hwn geisio cynnwys yr holl randdeiliaid, megis Cynghorau Tref a Chymuned.

“Er bod y sector yn barod iawn i dderbyn nad oes ateb sydyn i atal yr ymosodiadau gwarthus hyn rhag digwydd, bydd Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol newydd i Gymru yn sicrhau bod yr ateb hwnnw'n cynnwys y cymysgedd cywir a gofynnol o addysg, ymgyrchu a newidiadau deddfwriaethol arfaethedig.

“Fel rhan o gylch gwaith y tasglu hwn, byddai awdurdodau'n archwilio sut i addysgu'r cyhoedd yn well ar y Cod Cefn Gwlad. Boed trwy fideos byrion neu gynnwys digidol trochi, byddai'r tasglu hwn yn ein grymuso ni i gyd i ddysgu sut i ymddwyn yn ddiogel a chyfrifol yn ardaloedd gwledig Cymru.

“Fel y soniodd y Gynghrair Cefn Gwlad, mae plismona gwledig da yn golygu llawer mwy na nifer yr heddweision ar lawr gwlad. Rhaid inni geisio meithrin partneriaethau effeithiol sy'n sicrhau bod Awdurdodau Lleol, Cynghorau Tref a Chymuned yn rhan o'r gwaith.

“Er 'mod i'n talu teyrnged i waith Grŵp Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Cymru, mae'r achosion diweddar o ymosod ar dda byw yn profi ei bod hi'n hen bryd newid pethau'n sylweddol. Byddai'r tasglu newydd hwn hefyd yn sicrhau bod awdurdodau'n adlewyrchu cymunedau gwledig Cymru yn well, er mwyn cynyddu hyder yn yr ymdrechion i fynd i'r afael â throseddau gwledig."

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree