Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Galw am well addysg ar y cod cefn gwlad gan AS Aberconwy a'r Cerddwyr yng Ngogledd Cymru

  • Tweet
Monday, 16 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – wedi croesawu aelodau lleol y Cerddwyr yng Nghymru i gyfarfod (gan gadw pellter cymdeithasol) er mwyn cyflwyno eu maniffesto ar gyfer 2021, Wales for Walking - the routes to recovery.

Wrth sôn am y cyfarfod, meddai Janet:

“Oherwydd y cyfyngiadau diweddar yn sgil y Coronafeirws, mae llawer o drigolion lleol wedi dechrau gwerthfawrogi o'r newydd y manteision y mae cerdded yn eu cynnig i'w hiechyd a'u lles. Yn bersonol, rydw i wedi dechrau cerdded Llychlynnaidd dros y misoedd diwethaf, sydd wedi fy helpu i adfer cysylltiad â'r llwybrau a mannau gwyrdd gwych sydd i'w gweld ar garreg ein drws.

“Hoffwn ddiolch i'r Cerddwyr yng Nghymru ac aelodau o'u cangen leol yn y gogledd a ddaeth i'm swyddfa etholaethol i gyflwyno’r maniffesto, gan gadw pellter cymdeithasol. Mae hon yn ddogfen bwysig sy'n galw am ddiogelu mannau gwyrdd sy'n gwneud ein cymunedau'n llefydd iach i fyw, gweithio a gwirfoddoli ynddynt. Edrychaf ymlaen at ddarllen y ddogfen eto yn llawn.

“Rydw i hefyd yn falch o glywed ei fod yn ategu fy ngalwadau i i sicrhau bod cerddwyr ein cenedl yn deall yn well sut i ddiogelu a pharchu ein mannau gwyrdd. Er bod gennym reolau sydd wedi'u sefydlu ers bron i gan mlynedd, mae'n gwbl glir nad yw gwybodaeth y cyhoedd am y cyfrifoldebau gwledig hyn wedi parhau.

“Dyna pam rydw i wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut gallwn addysgu'r cyhoedd yn well ar faterion y Cod Cefn Gwlad. Yn y byd sydd ohoni, mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall Gweinidogion eu defnyddio i'n grymuso i gyd i ddysgu sut i ymddwyn yn ddiogel ac yn gyfrifol yn ardaloedd gwledig Cymru.

“Rwy'n annog fy holl drigolion lleol i gymryd rhan yn yr heriau sy'n ymwneud â cherdded y mae sefydliad y Cerddwyr wedi bod yn ddigon caredig i'w llunio er mwyn helpu i gymell pobl i fynd allan ac archwilio. Dim ond drwy fynd allan a chysylltu â natur y cawn ein hatgoffa go iawn o'i bwysigrwydd i'n hiechyd a'n ffyniant yn y dyfodol.”

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS yn cyfarfod aelodau cangen ardal Gogledd Cymru y Cerddwyr.

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree