Heddiw (21 Awst), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy - wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am gyfarfod safle a fydd yn cydymffurfio â Covid yn Ffordd y Frenhines yng Nghraig-y-Don, i drafod pa gamau ysgafnhau trafnidiaeth y gellir eu cyflwyno i ddiogelu diogelwch cerddwyr ymhellach.
Mae gan lawer o breswylwyr yn yr ardal bryderon ers tro ynghylch goryrru, gyda Mrs Finch-Saunders yn dweud y dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i wella diogelwch ffyrdd “adlewyrchu’r defnydd cynyddol o Barc Craig-y-Don, yn sgil ymgyrch lwyddiannus i fuddsoddi mewn cyfarpar maes chwarae.” Yn gynt yn yr wythnos, cafodd bachgen ifanc ei daro oddi ar ei feic aer ôl gwrthdrawiad gyda cherbyd oedd yn pasio.
Yn siarad am bryder lleol am oryrru yn yr ardal, dywedodd Janet:
“Yn dilyn ymgyrch lwyddiannus i gynyddu buddsoddiad ym maes chwarae Craig-y-Don, mae’r problemau traffig yn achosi risg i ddiogelwch plant ifanc lleol. Mae cyflymder y cerbydau sy’n defnyddio Ffordd y Frenhines wedi bod yn achos pryder mawr am flynyddoedd lawer, gyda phreswylwyr yn dweud eu bod yn ofn croesi’r ffordd bellach.
“Gan fod pob Llywodraeth yn y DU yn gofyn i’r cyhoedd gynnwys mwy o ymarfer corff yn eu diwrnodau arferol i gynnal iechyd cyhoeddus da yn sgil COVID-19, ni allwn adael i’r broblem bresennol o oryrru ar hyd Ffordd y Frenhines fod yn rhwystr ffisegol i rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas fanteision ar lecyn glas Parc Craig-y-Don.
“Dyna pam fy mod i wedi ysgrifennu at swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am ymweliad safle Covid-ddiogel er mwyn i ni drafod pa gamau priodol fyddai fwyaf addas i ni eu cymryd yn yr ardal; boed yn adeiladu ynys draffig, croesfan sebra neu arwyddion terfyn cyflymder pellach. Mae’n rhaid i fuddsoddi yma adlewyrchu’r defnydd cynyddol o’r parc lleol hyfryd hwn.
“Ar ôl cael ymrwymiad yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i godi arwyddion cyn croesfan sebra newydd Glan Conwy, i sicrhau bod defnyddwyr ffyrdd yn cael eu rhybuddio o’r newid mewn da bryd, rwyf wedi ymrwymo i ganfod atebion call sydd o fudd i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr.”
DIWEDD