Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Galwadau am Fwy o Ddiffibrilwyr yn ein Cymunedau

  • Tweet
Thursday, 7 May, 2020
Defib

Gyda gwasanaethau iechyd rheng flaen dan bwysau mawr yn sgil COVID-19, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i helpu i gynyddu nifer y diffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru. Gan roi sylwadau ar ei hymgyrch, dywedodd Janet:

“Mae pob eiliad yn cyfrif pan fo rhywun yn cael ataliad y galon.

“Rydym yn ffodus fod Calonnau Cymru wedi gosod mwy na 2,000 o ddiffibrilwyr ledled Cymru, a bod Calon y Dyffryn yn gweithio tuag at gael achubwyr bywydau wedi’u hyfforddi mewn CPR a diffibrilwyr ym mhob cymuned yn y Gogledd.

“Rwy’n cytuno gyda’r uchelgais, ac yn meddwl bod mwy o angen nawr nag erioed i Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o gyflwyno diffibrilwyr yn raddol.

“Gyda gwasanaethau rheng flaen yn canolbwyntio ar COVID-19 a chymaint ohonom yn gweithio gartref ac i ffwrdd o’r ardaloedd trefol mawr, mae angen dal ati i wella mynediad at ddiffibrilwyr yn ystod yr argyfwng iechyd cenedlaethol hwn.

“Fel y dywedodd un elusen wrtha i, mae’r feirws yn ymosod ar holl brif organau’r corff, gan gynnwys y galon, felly mae angen i ni gadw’r diffibrilwyr ar yr agenda ac i Lywodraeth Cymru beidio â thynnu ei throed oddi ar y sbardun.”

DIWEDD

 

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree