Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gobaith am Hwb Cyflogaeth i Lanrwst

  • Tweet
Friday, 3 January, 2020
GMJ

Mae asiantau gwerthu hen eiddo G.M. Jones ym Mharc Tŷ Gwyn, Llanrwst, wedi cadarnhau bod cynnig wedi’i wneud ar gyfer y ddwy uned ddiwydiannol. Mae’r newyddion hwn yn dilyn gwaith pwyso gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad dros Aberconwy, ar Lywodraeth Cymru ers i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwyr a’r unedau gael eu gadael yn segur ym mis Mawrth 2019.  

 

Darparodd Llywodraeth Cymru £400,000 i G.M. Jones adeiladu’r unedau pwrpasol yn 2016.

 

Meddai Janet am y datblygiad:

 

“Roedd methiant GMJ ym mis Mawrth 2019 yn drychineb mawr i Ddyffryn Conwy.

 

“Fe gollodd 40 o weithwyr eu swyddi, ac roedd dwy uned fawr a godwyd gyda chymorth arian trethdalwyr gwerth £400,000 bellach yn wag ac yn segur.

 

“Gan gofio bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ein harian ni yn y prosiect, rwyf wedi bod yn defnyddio’r dulliau sydd ar gael yn y Cynulliad i sicrhau bod yr unedau’n cael eu defnyddio eto, ac yn bwysicach, bod mwy o swyddi’n cael eu creu.

 

“Ar ôl holi Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am y sefyllfa yn y Cyfarfod Llawn y mis hwn, rwyf wedi cael cadarnhad ysgrifenedig bod cynnig wedi’i wneud i’r gweinyddwyr am y ddwy uned ddiwydiannol.

 

“Mae’n ymddangos ein bod gam yn nes at sicrhau hwb cyflogaeth i Lanrwst”.

 

DIWEDD

 

 

 

 

Cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad gan Janet Finch-Saunders AC:

Ymhellach i’r cyfarfod llawn ar 4 Rhagfyr 2019, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yn gofyn i Brif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru gysylltu â Busnes Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynghylch hen adeilad G.M. Jones ym Mharc Tŷ Gwyn, Llanrwst?

 

Ymateb gan Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Gallaf gadarnhau bod swyddfa’r Prif Swyddog Rhanbarthol wedi cysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Busnes Cymru ynglŷn ag adeiladau GMJ yn Llanrwst, a’n bod yn hyrwyddo’r adeiladau ar bob cyfle posibl. Mae’r adeiladau’n cael eu hysbysebu gan Busnes Cymru ac mae asiantau gwerthu’r eiddo wedi cadarnhau bod cynnig wedi’i wneud i’r gweinyddwyr ar gyfer y ddwy uned ddiwydiannol. Byddwn yn parhau i weithio â phawb sydd â diddordeb er mwyn sicrhau cyflogaeth yn y safle yn Llanrwst.

 

 

Nodiadau:

 

Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid Grant

 

Developer given major grant to build £1.3m headquarters has gone into administration

 

Ffotograff:

 

Janet Finch-Saunders AC y tu allan i hen adeiladau G.M. Jones yn Llanrwst

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree