Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Gwactod ariannol enfawr” Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

  • Tweet
Wednesday, 15 January, 2020
Hospital

Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd wedi rhoi sicrwydd y bydd ffocws ar welliannau a sicrhau gwerth am arian wrth i Lywodraeth Cymru ystyried cynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer 2020-21.

 

Daw’r ymrwymiad ar ôl i Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, holi’r Gweinidog am sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd.

 

Meddai Janet am y mater:

 

“Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd cynnydd o £400 miliwn yn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2020/21, ond mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw’r arian hwn yn cael ei wastraffu a bod targedau gwariant yn cael eu cyrraedd.

 

“Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hanes ariannol gwarthus.

 

“Cofnododd ddiffygion o £20 miliwn yn 2015-16, £30 miliwn yn 2016-17, £39 miliwn yn 2017-18 a £41 miliwn yn 2018-19.

 

“Hefyd, mae’n edrych fel y bydd gan y Bwrdd ddiffyg o £35 miliwn eleni, gan fethu’r targed gan £10 miliwn.

 

“Fel y dywedais wrth y Gweinidog Cyllid, mae’r Bwrdd wedi methu mantoli’r gylideb er iddo dderbyn £83 miliwn o gyllid mesurau arbennig.

 

“Yn hytrach na thaflu mwy o arian at Fwrdd sydd wedi dod yn wactod ariannol enfawr, rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog wedi cytuno â mi bod angen ystyried gwastraff arian a gorwario yn ofalus.

 

“Wrth i ni symud ymlaen, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sefyll yn gadarn a gwrthod cynigion y Bwrdd Iechyd os nad ydynt yn cynnig gwerth am arian.”

 

Nodiadau:

 

Questions to the Minister for Finance and Trefnydd: The Budget's Impact on North Wales

 

North Wales’ health board chair voices frustration as trust faces estimated £35m deficit

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree