Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gwaith lliniaru llifogydd gam yn nes yn Llanrwst

  • Tweet
Thursday, 25 June, 2020
Cyfarfod

Ar ôl sicrhau arian ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ar gyfer stadau Perthi a'r Berllan, Llanrwst, cafwyd cadarnhad bod y cynllun gam yn nes at gael ei roi ar waith.

Ar ôl gweithio ar y mater hwn ers mis Mawrth 2019, mae Janet Finch-Saunders AS bellach wedi clywed y canlynol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

  • Daethpwyd i gytundeb gyda'r gymdeithas tai i gyflawni'r gwaith
  • Mae'r gymdeithas tai wedi dweud byddant yn rhoi gwybod i'w trigolion yn ystod yr wythnosau nesaf am y gwaith arfaethedig
  • Y bwriad yw dechrau arni ar 10 Awst 2020

Wrth sôn am y datblygiad cadarnhaol, dywedodd Mrs Finch-Saunders:

“Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod llai o beryglon llifogydd i drigolion a busnesau Llanrwst a'r cylch.

“Bues i'n chwilio'n ddyfal am gymorth i ystadau Perthi a'r Berllan oedd mewn cyflwr difrifol wedi storm Ciara.

“Mae'r ffaith fod y gymdeithas tai wedi cytuno a'r gwaith ar fin cychwyn ar 10 Awst 2020 yn newyddion gwych.

“Hoffwn ddiolch i'r holl drigolion am ddangos ffydd ynof i ddwyn yr awdurdodau perthnasol i gyfrif drostynt, ac i Gyngor Conwy am gydweithio i sicrhau bod y gwaith parhaol brys yn bosib".

DIWEDD

Dogfen:

  • Ymateb i'r Aelod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Nodiadau:

  • Gwaith lliniaru llifogydd ar y gweill i Lanrwst

Llun:

  • Cyfarfod cyhoeddus llifogydd 2020

Attachments

Attachment Size
Ymateb i'r Aelod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 190.85 KB
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree