Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid yn cefnogi’r ymgyrch i Achub Gwasanaeth Parcio a Theithio Glan Clwyd

  • Tweet
Friday, 25 October, 2019
Hospital

Mae’r ymgyrch, dan arweiniad Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy a Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid, wedi addo i ddal ati i frwydro i achub y gwasanaeth parcio a theithio yn Ysbyty Glan Clwyd, ac mae wedi galw ar y bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth parcio oddi ar y safle dilys. Mae hyn yn dilyn buddugoliaeth tymor byr wrth i’r trefniadau gael eu hestyn tan 31 Mawrth 2020.

 

Gan roi sylw ar sicrhau ail estyniad, dywedodd Janet:

 

“Rwy’n falch iawn bod y bwrdd iechyd yn gwrando ar ein hymdrech trawsbleidiol a chymunedol i achub y gwasanaeth.

 

“Fel y mae Prif Weithredwr y bwrdd iechyd ei hun wedi’i gydnabod, er bod cynnydd wedi bod mewn lleoedd parcio ar y safle, mae cynnydd hefyd wedi bod yn y galw am lefydd parcio.

 

“Rwyf eisoes wedi ei gwneud hi’n hollol glir yn fy llythyr y mis diwethaf bod defnyddwyr cyfleusterau parcio ar y safle yn sôn am gleifion yn aml yn cael eu gadael heb opsiwn ond i aros i rywun symud o le parcio, neu barcio’n beryglus mewn lleoliadau amhriodol i gyrraedd eu hapwyntiadau.

 

“Rwy’n gwybod o brofiad y straen i ddod o hyd i le parcio ar y safle, felly rwyf rywfaint yn siomedig bod y bwrdd iechyd yn teimlo bod angen cryfhau eu gwaith i ddangos yn glir ganlyniadau dod â’r gwasanaeth i ben.

 

“Rydym wedi cyrraedd pwynt lle na allwn ddibynnu ar barcio ar y safle yn unig, felly rwy’n erfyn ar y bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth parcio oddi ar y safle dilys.

 

“Dim ond yr wythnos diwethaf cefais gyfarfod gyda’r Cadeirydd a’i atgoffa o’r opsiynau a awgrymwyd i mi gan staff a chleifion y GIG, fel darparu’r gwasanaeth hwn ar adegau prysur yn unig, neu hyd yn oed codi £1 am docyn dwy ffordd.”

 

DIWEDD

 

Dogfen:

 

Llythyr at y Prif Weithredwr mewn perthynas â Pharcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd

 

Llythyr gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â Pharcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd

 

 

Nodiadau:

 

Hospital park and ride service wins another six month reprieve

Attachments

Attachment Size
Llythyr at y Prif Weithredwr mewn perthynas â Pharcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd 875.39 KB
Llythyr gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â Pharcio a Theithio Ysbyty Glan Clwyd 181.68 KB
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree