Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid dros Bobl Hŷn yn hyrwyddo eu buddiannau ar eu Diwrnod Rhyngwladol

  • Tweet
Friday, 11 October, 2019
Janet

Mae diwrnod rhyngwladol pobl hŷn yn cael ei ddathlu’r wythnos hon, ac mae Janet Finch-Saunders, sy’n Aelod Cynulliad dros Aberconwy, yn Weinidog yr Wrthblaid dros Bobl Hŷn, ac yn Eiriolwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, wedi helpu i lansio adroddiad diweddaraf y Comisiynydd Pobl Hŷn, ac mae’n gweithredu i helpu i sicrhau bod trigolion yn cael eu grymuso.

 

Yr adroddiad a gafodd ei lansio oedd Cyflwr y Genedl: Trosolwg o Heneiddio yng Nghymru. Nod yr adroddiad yw casglu’r data sydd ar gael a darparu dadansoddiad er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio.  

 

Ar ôl cymryd rhan yn y digwyddiad i lansio’r adroddiad a’r panel trawsbleidiol, meddai Janet:

 

“Roeddwn wrth fy modd yn helpu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, i lansio ei hadroddiad ardderchog.

 

“Bydd hyn yn helpu ein hymdrechion diflino i sicrhau bod y rhai sy’n llunio polisïau ac yn gwneud penderfyniadau yn ystyried pobl hŷn.

 

“Mae meysydd allweddol sydd angen cymorth wedi’u nodi, gan gynnwys yr angen i ddileu rhagfarn ar sail oedran, sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu cam-drin, a helpu pawb i heneiddio’n dda.

 

“Mae Sir Conwy yn ganolog i’r gwaith hwn, gan fod yr adroddiad yn cydnabod bod gennym y ganran uchaf o bobl hŷn 65 oed neu drosodd yng Nghymru.

 

“Rwy’n credu’n gryf mewn grymuso pobl hŷn er mwyn rhoi newid ar waith, ac rwy’n gweithio i gyflawni’r amcan hwn.

 

“Un rheswm pam rwy’n cynnal fy nigwyddiad Heneiddio’n Dda blynyddol ar 25 Hydref 2019 yw helpu i sicrhau bod fy etholwyr yn gwybod am y cymorth sydd ar gael, a’r hyn rwy’n ei wneud, i helpu i gyfoethogi bywydau pobl hŷn”.

 

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Cyflwr y Genedl: Mae pobl hŷn mewn perygl o fynd yn ‘anweledig’, yn ôl rhybudd y Comisiynydd

 

Cynhelir y digwyddiad Heneiddio’n Dda, a drefnir gan Janet Finch-Saunders AC, yn Ystafell Bodafon, Gwesty’r Imperial rhwng 14:30pm a 16:30pm ddydd Iau 25 Hydref 2019. Mae croeso i bawb sydd am ddysgu mwy am gyfleoedd iechyd, llesiant, cyflogaeth, addysg, diogelwch a chymorth. I archebu lle yn y digwyddiad, ffoniwch 01492 871198 neu e-bostiwch janet.finch-saunders@cynulliad.cymru

 

Llun:

 

Janet Finch-Saunders AC gyda Dai Lloyd AC, Julie Morgan AC, a Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree