Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid – Pryderon ynghylch Risgiau Diogelu ym maes Gofal Cymdeithasol

  • Tweet
Thursday, 4 June, 2020
Janet

Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi herio’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn dadl am reoliadau gofal cymdeithasol diwygiedig yr wythnos hon.

Dwy effaith Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygiad) (Coronafeirws) 2020 yw:

  • Llacio rhai o’r rheolau sy’n gysylltiedig â’r angen i berson sy’n gweithio i ddarparwr gwasanaethau ddarparu gwybodaeth lawn a boddhaol o ran pethau fel geirdaon ysgrifenedig, tystiolaeth o gymwysterau, hanes cyflogaeth a sgiliau iaith
  • Darpariaeth gofal nyrsio, a gofal a chymorth i oedolion a gomisiynir gan awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd heb yr angen i gofrestru fel y nodir yn Adrannau 5 a 6 o Ddeddf 2016 (Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)

Gan roi sylwadau ar ôl i’r Rheoliadau gael eu pleidleisio drwy’r Senedd, dywedodd Janet:

“Mae’r rheoliadau hyn yn achosi pryder mawr am risgiau diogelu ym maes gofal cymdeithasol.

“Mae’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Brexit Party newydd bleidleisio i ganiatáu llacio gwiriadau cyflogaeth mewn perthynas ag unigolion sy’n gobeithio gweithio mewn lleoedd fel cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.

“Mae darparu gwybodaeth lawn a boddhaol o ran pethau fel geirdaon ysgrifenedig, tystiolaeth o gymwysterau a hanes cyflogaeth er budd pennaf darparwyr gwasanaethau a’r unigolion y maen nhw’n gweithio gyda nhw.

“Nid fi yw’r unig un sy’n poeni am lacio’r rheolau. Yn wir, anogodd ymatebwr i’r ymgynghoriad ar y rheoliadau diwygiedig fod gwiriadau cyn-gyflogaeth yn hanfodol i ddiogelu unigolion.

“Mae gweithwyr rheng flaen yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae ambell ddigwyddiad yn y gorffennol yn golygu bod yn rhaid i ni wastad fod yn ofalus a sicrhau ein bod yn diogelu unigolion.

“Mae hyn yn bwysicach nag erioed nawr bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi penderfynu peidio â chynnal arolygiadau rheolaidd yn ystod y pandemig.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree