Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn annog ailagor lleoliadau marchogaeth dan do

  • Tweet
Monday, 20 July, 2020
Marylou Fortier/UnSplash

Heddiw (20 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi mynegi pryderon difrifol am ddull Llywodraeth Cymru o ailagor lleoliadau marchogaeth dan do'r genedl a’r effaith niweidiol y gallai ei chael ar rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas.

Dywedodd Mrs Finch-Saunders bod cau grwpiau y Gymdeithas Marchogaeth (RDA) ar gyfer Pobl Anabl am mor hir yn cael effaith negyddol ar hyder llawer o aelodau, ynghyd â’u llesiant corfforol a meddyliol. Datgelodd arolwg diweddar fod 80% o aelodau yn credu bod methu mynd i gyfarfodydd RDA wedi cael effaith negyddol ar eu llesiant corfforol, tra bod 77% wedi honni effaith negyddol ar eu llesiant meddyliol.

Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Rydw i’n poeni fwyaf am ddull afreolaidd Llywodraeth Cymru o ran ailagor lleoliadau marchogaeth, sydd wedi gadael llawer o swyddogion yn crafu eu pennau. Mae diffyg cysondeb yn eu dull – er na ellir ailddechrau gweithio mewn lleoliadau marchogaeth dan do arferol eto, gall rhai mannau wedi’u gorchuddio fod ar gael i’w defnyddio, yn dibynnu ar ganiatâd gan yr awdurdod lleol ac yswirwyr perthnasol.

“Nid oes cydnabyddiaeth ychwaith gan weinyddiaeth Mark Drakeford i gynlluniau ar gyfer ailagor y sector yn y dyfodol cyn ei adolygiad nesaf o gyfyngiadau COVID-19. Mae hyn yn wendid amlwg sy’n peri gofid mawr ar ôl i’w weinyddiaeth gadarnhau yn gyhoeddus eu bod yn ystyried ailagor campfeydd ein cenedl, canolfannau hamdden, stiwdios ffitrwydd a phyllau nofio.

“Pan fyddwch chi’n ystyried bod arenâu dan do marchogaeth yn gwbl wahanol i gyfleusterau chwaraeon dan do eraill ar sail eu darpariaeth o doiled yn unig, a bod eu corlannau mawr yn golygu y gellir cadw pellter cymdeithasol yn ddigonol, rwy’n gweld y diffyg symud o ran ailagor y sector hwn yn wirion iawn.

“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried ailagor arenâu marchogaeth dan do yn ddiogel er mwyn i’w gwaith hollbwysig o gynnal llesiant meddyliol a chorfforol rhai o bobl fwyaf bregus cymdeithas barhau.”

DIWEDD

Ffotograff: Marylou Fortier/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree