Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn croesawu band eang ffeibr llawn i'r Gymru wledig

  • Tweet
Friday, 7 August, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi rhoi croeso pwyllog heddiw (07 Awst) i'r newyddion y bydd cymunedau gwledig Cymru yn elwa ar gyllid band eang ffeibr llawn, gan ychwanegu bod yn rhaid i drefi a phentrefi 'dderbyn y cyflymder a addawyd'.

Dywedir bod y cyswllt â 3.2 miliwn o safleoedd y DU, a gafodd y sêl bendith yn dilyn ymgynghoriad Ofcom, yn rhan o fuddsoddiad £12 biliwn gan Openreach i adeiladu seilwaith ffibr llawn i 20 miliwn safle ledled y DU erbyn diwedd y degawd hwn. 

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Janet: 

“Rwy'n rhoi croeso pwyllog i'r newyddion y bydd Cymru'n elwa ar y cylch diweddaraf hwn o fuddsoddiad band eang ffeibr llawn gan Openreach, gan roi blaenoriaeth i gymunedau gwledig diarffordd wrth i'n ffermwyr a'n gweithwyr amaeth geisio arallgyfeirio eu busnesau. 

“Gan fod gweithio gartref yn dod yn duedd gynyddol a chyffredin, ni allwn barhau i adael i gyflymder rhyngrwyd rhewlifol effeithio ar lefelau cyflogaeth, cyrhaeddiad addysgol a chynhyrchiant busnes ar hyd a lled ein trefi a phentrefi gwledig.

“Mae'n deg dweud bod cryn le i wella ar y dull rywsut-rywsut o gyflwyno band eang ffeibr llawn ledled Cymru. Mae llawer o fusnesau a chartrefi gwledig wedi cysylltu â  mi i ddweud bod eu cais i uwchraddio wedi'i wrthod, er bod llinellau ffibr yn rhedeg heibio i'w heiddo.

“Drwy dderbyn y cyflymder a addawyd o'r diwedd, gall busnesau gwledig ein cenedl barhau i fod yn gystadleuol mewn cymdeithas fwyfwy digidol. Dim ond cysylltiad rhyngrwyd parhaus a dibynadwy fydd yn helpu i gyflawni hyn."

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree