Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn croesawu 'ymateb cadarnhaol' i gais inswleiddio â gwlân

  • Tweet
Tuesday, 6 October, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (06 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – wedi croesawu ymateb cadarnhaol i'w llythyr at Lywodraeth Cymru, a anogodd y weinyddiaeth i hyrwyddo gwlân Cymreig fel deunydd inswleiddio wrth uwchraddio neu adeiladu stoc dai'r genedl. 

Mewn llythyr ateb, dywedodd Lesley Griffiths AS: 

“Rwy'n cefnogi mwy o ddefnydd o wlân Cymreig i inswleiddio tai, cyn belled â'i fod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu, ei fod yn gost-effeithiol a'r ateb mwyaf ecogyfeillgar, ond efallai na fydd hynny'n wir ym mhob sefyllfa.

Dyma'r diweddariad diweddaraf yn ymgyrch Adduned Gwlân Cymreig Gweinidog yr Wrthblaid, gyda'r newyddion yn cyrraedd yng nghanol 10fed Wythnos Wlân flynyddol yr Ymgyrch dros Wlân. Ddoe, tynnodd Mrs Finch-Saunders sylw at gychwyn yr wythnos o ddathlu drwy ysgrifennu at amrywiaeth o weithgynhyrchwyr a gwerthwyr i’w hannog i gefnogi’r ymgyrch.   

Wrth sôn am ymateb Llywodraeth Cymru, dywedodd Janet: 

“Rwy'n falch iawn bod y cais hwn gan y Ceidwadwyr Cymreig, a ofynnodd am ymrwymiad i ddefnyddio mwy o wlân ein cenedl fel deunydd inswleiddio wrth uwchraddio neu adeiladu tai'r genedl, wedi cael ymateb mor gadarnhaol gan y weinyddiaeth ym Mae Caerdydd.  

“O'i ddefnyddio yn y cartref, mae deunydd inswleiddio gwlân yn helpu i leihau costau ynni ac yn atal colli ynni, gan leihau allyriadau carbon. Diolch i gynnwys dŵr a nitrogen uchel y deunydd naturiol, mae gwlân yn ddeunydd gwrthdan naturiol hefyd. 

“Mae sicrhau'r ymrwymiad hwn yn gychwyn gwych i Wythnos Wlân 2020, pan fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn sefyll dros ein ffermwyr ac yn hyrwyddo rhinweddau'r ffibr rhagorol hwn. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu at weithgynhyrchwyr deunydd gwely a chyfarfod â British Wool.

“Mae gan Aelodau Etholedig Senedd Cymru lwyfan i fynd ar drywydd polisïau sy'n rhoi buddiannau gorau ein cymunedau gwledig wrth wraidd datganoli.  Drwy annog Llywodraeth Cymru i addasu ei harferion prynu, gallwn sefyll ochr yn ochr â'r bobl hynny sy'n dibynnu ar y manteision a geir gan ein ffermydd.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree