Heddiw (07 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Gwledig – wedi croesawu ystadegau gan BT, sydd wedi dangos bod cyfran y busnesau gwledig sy'n mabwysiadu band eang cyflym iawn wedi cynyddu o 37% yn 2018 i 57% yn 2019.
Daw'r datgeliad wrth i BT lansio ei 4G Hub, sy'n defnyddio'r rhwydwaith EE yn hytrach na 'llinell sefydlog' i mewn i adeilad. Mae'n darparu signal WiFi y tu mewn i dŷ neu fusnes, gyda chyflymder nodweddiadol o oddeutu 30 Mbps.
Mewn ardaloedd gwledig, bydd BT yn ceisio cysylltu erial i ochr y tŷ neu'r adeilad i gefnogi cyflymder band eang. Yn ôl ystadegau a ddarparwyd gan Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd, y rheswm am hyn yw bod 6% o fusnesau gwledig yn dal i fethu manteisio ar gyflymder lawrlwytho o fwy na 2Mbps yn 2019.
Wrth sôn am y cynnydd ystadegol, dywedodd Janet:
“Mae cysylltiad rhyngrwyd gwael yn effeithio'n negyddol ar ein bywydau bob dydd ac effeithiolrwydd busnesau. Mae hyn yn arbennig o wir am ein cymunedau gwledig, sy'n parhau i wynebu amryw o heriau economaidd a chymdeithasol hirsefydlog sy'n cael eu gwaethygu ymhellach gan broblemau gyda chysylltedd digidol.
“Gall cysylltiad band eang dibynadwy wneud cyfraniad pwysig at adfywio cymunedol, yn enwedig wrth i fwy o'n bywydau symud ar-lein. Dengys ystadegau fod 40% o fusnesau gwledig wedi prynu o leiaf hanner eu heitemau ar-lein yn 2019, gydag 81% o BBaChau gwledig bellach yn gweithredu gwefan i gynyddu masnach.
“Dyna pam bod y newyddion bod gweithredwyr ffonau symudol wedi cytuno’n gynharach eleni ar raglen fuddsoddi newydd gwerth £1 biliwn i gynyddu'r ddarpariaeth 4G mor arwyddocaol. Ar hyn o bryd, gall 79% o'r tir yn Aberconwy dderbyn signal 4G gan weithredwr ffonau symudol BT.
"Yn y cyfamser, rwy'n croesawu cynnig BT i osod erial am ddim i gefnogi cyflymder band eang cryfach. Bydd hyn o gymorth mawr i fusnesau ledled fy etholaeth, a bydd yn helpu'r bobl leol hynny sy'n parhau i ddioddef cyflymder araf oherwydd methiant parhaus Llafur Cymru i sicrhau bod band eang cyflym iawn yn eu cyrraedd nhw.”
DIWEDD
Ffotograff: Daniel Falcao/UnSplash