Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn galw am fwy o drafod er budd trigolion cartrefi gofal

  • Tweet
Friday, 11 October, 2019
Care Home

Mae Janet Finch Saunders AC, Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw am fwy o drafod rhwng cartrefi gofal, Byrddau Iechyd y GIG ac Awdurdodau Lleol i wella safon gofal ar gyfer pobl mewn cartrefi gofal.

 

Ar hyn o bryd, mae mwy na 15,000 o bobl 65 oed a hŷn yn byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Y cyfartaledd oedran ar gyfer symud i gartref gofal yw 83 oed gyda’r arhosiad ar gyfartaledd tua dwy flynedd a hanner.

 

Wrth siarad yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon, roedd Finch Saunders am dynnu sylw at beth o’r gwaith rhagorol y mae cartrefi gofal yn ei wneud a mynegi pryderon bod nifer y cartrefi gofal yng Nghymru wedi gostwng o 30 cartref mewn llai na blwyddyn. Yn syfrdanol, rhagwelir y bydd 16% o gartrefi gofal yng Nghymru wedi cau o fewn pum mlynedd.

 

Fel rhan o alwad Janet am fwy o drafod, hoffai Gweinidog yr Wrthblaid weld:

  • System Wybodaeth am Ofal yn y Gymuned, gan ddigideiddio cofnodion cleifion, er mwyn i staff y cartref gofal gael mynediad at wybodaeth berthnasol am eu cleient er budd eu gofal
  • Cynnwys lleoliadau hyfforddiant nyrsio mewn cartrefi gofal, gan alluogi gwell dealltwriaeth o’r gwahanol rolau o fewn y sector
  • Defnydd mwy helaeth o staff cartref gofal, ar ôl eu hyfforddi, i gynnal archwiliadau rheolaidd o gleientiaid, gan gynnwys pwysau gwaed a darllen tymheredd i ysgafnhau’r pwysau ar gyfleusterau’r GIG.

 

Meddai Janet Finch Saunders, AC:

 

“Mae gan staff cartrefi gofal wybodaeth gyfoethog a allai drawsnewid gofal rhai cleifion mewn ysbytai. Rydw i eisoes wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig bod y byrddau iechyd yn cael trefnu clinigau galw heibio mewn lleoliadau y tu allan i’r GIG, ac yn gwybod bod rhai cartrefi yn awyddus i agor eu drysau i’r gymuned leol lle mae modd gwneud hynny, er enghraifft, trwy gynnal clinigau therapi mewnwythiennol.

 

“Wrth ymweld â chartrefi gofal, rydw i wedi gweld yr angerdd sydd gan y staff sy’n gofalu am eu cleifion, ac wedi bod yn falch gwrando ar sut maen nhw, y bobl sy’n gweithio yn y sector, yn meddwl y gallen ni wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal a sicrhau cynaliadwyedd y sector wrth i fyw o bobl fyw’n hŷn.”

 

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

 

  1. Mae testun llawn araith Janet ar gael yma: https://janetfinchsaunders-admin.conservativewebsites.org.uk/news/short-debate-caring-care-homes-how-we-could-do-more-care-care-homes-wales

 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree