Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn Galw am Gyllid Argyfwng er mwyn helpu Plant sy’n Derbyn Gofal

  • Tweet
Thursday, 21 November, 2019
children

Wrth i ddata newydd ddangos bod nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru wedi cyrraedd y lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2003, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc, wedi galw am gyllid argyfwng er mwyn helpu awdurdodau lleol lle gellir profi fod straen ariannol ychwanegol wedi achosi’r cynnydd yn nifer a chymhlethdod yr achosion

 

Roedd 6,845 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru ar 31 Mawrth 2019.

 

Wrth gyfeirio at y lefel uchaf erioed, meddai Janet:

 

“Mae yna gonsensws trawsbleidiol yn y Senedd bod gennym gyfrifoldeb cyfunol er mwyn sicrhau bod plant sydd wedi bod mewn gofal am ran helaeth o’u hoes yn cael y gofal a’r cymorth gorau sydd ar gael er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr un cyfleoedd ag unrhyw blentyn arall.

 

“Mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw at y nifer cynyddol o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru fel maes blaenoriaeth ar gyfer camau ataliol, ac mae’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi bod yn gweithio ar hyn.

 

“Mae’r data a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn profi nad yw eu strategaeth yn gweithio eto.

 

“Yn ôl cofnodion, roedd gan awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru'r nifer uchaf o blant sy’n derbyn gofal yn eu gofal ar 31 Mawrth 2019. 

 

“Roedd y nifer yn 6,847 o gymharu â 4,195 ar 31 Mawrth 2003.

 

“Mae hynny’n 63% yn fwy o blant y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru helpu i’w diogelu.

 

“Er fy mod yn gwerthfawrogi y gallai cynlluniau gostwng disgwyliedig a gytunwyd erbyn mis Mai eleni greu gostyngiad cyfartalog o 4% yn ystod pob un o’r tair blynedd nesaf, ar hyn o bryd mae’r tueddiad yn parhau i’r cyfeiriad arall.

 

“Ni ellir anwybyddu hyn a dylid sicrhau bod cyllid argyfwng ar gael er mwyn helpu awdurdodau lleol sy’n cael trafferth gyda chostau gofal.

 

“Er enghraifft, yma yng Nghonwy gwelwyd cynnydd o 23% yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ers 2016, a bydd gwasanaethau cymdeithasol wedi gorwario hyd at £2.25 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

“Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod y gwaith yn cael ei wneud gan yr Awdurdod Lleol er mwyn ceisio darparu gofal mewn modd mwy cost-effeithiol, yn y tymor byr, mae Conwy ac awdurdodau lleol ledled Cymru'n haeddu cymorth ariannol mewn argyfwng lle gellir profi straen ariannol ychwanegol oherwydd cynnydd yn nifer a chymhlethdod yr achosion“.

 

DIWEDD

 

 

Nodiadau:

 

Plant sy'n Derbyn Gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol a math o leoliad

 

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal (2/7/19)

 

Cyngor Conwy'n wynebu gorwariant o £2 filiwn yn y sector gwasanaethau cymdeithasol 

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree