Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Gweinidog yr Wrthblaid yn galw am gynyddu’r cymorth ar gyfer sector amaeth-dechnoleg Cymru

  • Tweet
Wednesday, 29 July, 2020
Melissa Askew/UnSplash

Heddiw (29 Gorffennaf), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ‘gynyddu’r cymorth i sector amaeth-dechnoleg y genedl.

Daw ei galwadau ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd yn darparu cymorth cyllid i naw prosiect arloesol ledled Lloegr sy’n defnyddio data mawr, AI a roboteg ym maes ffermio er mwyn helpu i sefydlu system fwy effeithlon o gynhyrchu bwyd.

Wrth drafod sector amaeth-dechnoleg Cymru, dywedodd Janet:

“Rwy’n croesawu’r newyddion hwn am gyllid gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn San Steffan ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddechrau meithrin ei hoes ei hun o arloesedd ym myd amaeth, drwy gynyddu ei hymrwymiadau cyllid i sector amaeth-dechnoleg Cymru.

“Trwy gefnogi’r math hwn o ffermio blaengar ac arloesol, gall Llywodraeth Cymru ddiogelu ffermwyr ein cenedl rhag methu â dal i fyny gyda’r economi byd-eang sy’n esblygu’n gyflym.

“Gan fod technoleg fel hyn yn aml yn helpu i wella cynhyrchiant cnydau mewn modd  cynaliadwy ac amgylcheddol, bydd y cam hwn yn cynyddu effeithlonrwydd tra’n cefnogi nodau polisi ehangach i leihau allyriadau carbon Cymru. 

“Bydd darparu cymorth cyllid ar gyfer y prosiectau amaeth-dechnoleg cyffrous arloesol hyn hefyd yn arwain at waith traws sector. Mae hyn yn golygu y bydd cefnogaeth ar gyfer y sector hefyd o fudd i Brifysgolion blaenllaw’r genedl, gan sbarduno graddedigion a sin dechnolegol newydd.”

DIWEDD

Ffotograff: Melissa Askew/UnSplash

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree