Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Hyrwyddwr Pobl Hŷn yn Pwyso am Well Cyfathrebu ynglŷn â'r Rhaglen Frechu

  • Tweet
Thursday, 21 January, 2021
Hospital

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a'r Hyrwyddwr Pobl Hŷn, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wneud mwy o ymdrech i gyfathrebu â phobl ynglŷn â'r rhaglen frechu.

Daw'r galwadau yn dilyn  cais yr Aelod yr wythnos hon i Lywodraeth Cymru gadw at ei hamserlenni brechu gwreiddiol fel ffordd o fynd i'r afael ag iechyd meddwl gwael ymhlith pobl hŷn, mynd i'r afael â'r methiant i gyflwyno cynllun brechu effeithiol ac addewid a wnaed gan y bwrdd iechyd i'r Aelod y byddai pob cartref yn y Gogledd yn cael llythyr er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu. Nid yw hyn wedi digwydd yn Aberconwy.

Er bod yr Aelod wedi gofyn am eglurder o ran cyfathrebu, nid yw'r broblem gyda'r llythyrau wedi cael sylw eto. Fodd bynnag, fe'i cynghorwyd:

  • bod pob un o'r 98 o feddygfeydd teulu yn y Gogledd bellach yn rhan o'r rhaglen frechu
  • bod y rhan fwyaf o feddygfeydd teulu eisoes wedi dechrau gweinyddu'r brechlynnau, ac y bydd y gweddill yn dod ar-lein dros y diwrnodau nesaf
  • bod y bwrdd iechyd wedi rhoi blaenoriaeth i gychwyn i ddosbarthu brechlynnau i'r meddygfeydd hynny a oedd â'r nifer fwyaf o gleifion dros 80 oed a chleifion mewn cartrefi gofal
  • bod y ffocws yn dal i fod ar sicrhau bod pawb yn y ddau brif grŵp yn cael cynnig brechiad erbyn diwedd mis Ionawr
  • o'r penwythnos hwn ymlaen, bod y Canolfannau Brechu Torfol yn mynd i fod ar agor chwe niwrnod yr wythnos, gyda'r bwriad o symud i saith diwrnod yr wythnos yr wythnos ganlynol
  • bod y bwrdd iechyd ar y trywydd iawn i frechu pawb dros 80 oed erbyn diwedd y mis, os bydd y cyflenwadau o frechlynnau yn caniatáu hynny.

Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Rwy'n cymeradwyo ymdrech ddiflino'r bwrdd iechyd i geisio cyflwyno'r brechlynnau yn effeithlon, ond mae'n rhaid iddyn nhw gadw at addewidion a gwella cyfathrebu.

“Er fy mod in cydnabod bod gwybodaeth ddefnyddiol am y brechiadau ar gael ar-lein, nid yw dros draean o bobl hŷn – tua chwarter miliwn o bobl – yn gwneud unrhyw ddefnydd personol o'r rhyngrwyd.

“Yn wir, mae'r ffigur hwnnw'n 60 y cant ar gyfer y rhai dros 75 oed, sy'n golygu ei bod hi'n annhebygol y bydd y rhai sy'n 80 oed a hŷn sydd wedi bod yn disgwyl clywed pryd y byddant yn cael y brechiad wedi gallu gwrthweithio methiant y bwrdd i gyhoeddi llythyrau drwy fynd ar-lein.

“Dros chwe wythnos ar ôl dechrau cyflwyno'r brechlyn yng Nghymru, mae'n annerbyniol bod cyfathrebu'n parhau i fod yn ddiffygiol a bod llawer o drigolion hŷn yn teimlo eu bod wedi'u gadael yn y tywyllwch y gaeaf truenus hwn”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree