Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Janet Finch-Saunders AS yn dathlu #Februdairy 2021

  • Tweet
Monday, 1 February, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Wrth nodi dechrau #Februdairy 2021, mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Faterion Gwledig – heddiw (01 Chwefror) yn annog trigolion Cymru gyfan i barhau i brynu'n lleol a defnyddio'r mis dathlu i flasu rhai o gynnyrch gorau'r genedl:

“Bu'n ddeuddeg mis eithriadol o anodd i'n ffermwyr llaeth, gyda phwysau digynsail y pandemig a nifer y cynhyrchwyr yng Nghymru yn parhau i ostwng. Yn wir, yn ôl ystadegau'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mae fy rhanbarth i, y Gogledd, wedi colli 10 cyflenwr rhwng mis Ebrill 2019 a 2020.

“Mae ymgyrch #Februdairy yn fenter wych sy'n cefnogi ein cymunedau gwledig i'r carn. Mae rôl ffermydd llaeth Cymru fel contractwyr a darparwyr swyddi gwledig yn rhy bwysig i'w hanwybyddu. Ar ôl gweithio mor galed yn ein bwydo gydol y pandemig, mae ond yn iawn ein bod ni'n dechrau rhoi rhywbeth yn ôl.

“Gall annog mwy o bobl i brynu cynnyrch llaeth gael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd cyfunol, yn enwedig oherwydd presenoldeb maethynnau fel calsiwm, potasiwm a fitamin D. Dyna pam rwy'n annog pawb i gymryd rhan a chael blas ar ein danteithion llaeth lleol!

“Yn fy etholaeth i, Aberconwy, rydym wedi ein bendithio gan gynnyrch llaeth arbennig o flasus, gan gynnwys iogwrt Llaeth y Llan a chawsiau Hufenfa De Arfon a’r Snowdonia Cheese Company. Felly da chi, gwnewch ymdrech arbennig i flasu'r bwydydd ardderchog hyn, a chefnogi'r diwydiant y mis hwn.”

Llun: Janet Finch-Saunders AS

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree