Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Lansio gwobrau i gydnabod cyflawnwyr Cymreig-Tsieineaidd lleol

  • Tweet
Tuesday, 12 May, 2020
Blossom Awards

Mae Aelod o’r Senedd Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - yn galw ar etholwyr o’r gymuned Cymreig-Tsieineaidd - i gynnig eu hunain am wobr newydd sydd wedi’i llunio i gydnabod eu cyflawniadau a’u cyfranogiad at fywyd cenedlaethol.

Mae’r enwebiadau wedi agor nawr ar gyfer The Blossom Awards sy’n ceisio nodi cyflawnwyr llwyddiannus yn y gymuned Cymreig-Tsieineaidd a Phrydeinig-Tsieineaidd, mewn meysydd amrywiol. Mae’r Gwobrau yn cydnabod arwyr di-glod fel athrawon, staff y GIG ac arweinwyr elusennau a’r rhai sydd wedi llwyddo mewn meysydd proffesiynol fel peirianneg, technoleg a busnes.

The Blossom Awards yw’r acolâdau cyntaf erioed i ganolbwyntio’n llwyr ar y Gymuned Cymreig-Tsieineaidd – un o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig mwyaf a mwyaf sefydledig yng Nghymru.

Gellir enwebu nawr hyd ddydd Gwener 12 Mehefin 2020. Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau ar-lein: www.TheBlossomAwards.org.uk.

Wrth siarad am y gwobrau, dywedodd Janet:

“Mae pobl Cymreig-Tsieineaidd yn gwneud gwaith ysbrydoledig mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Aberconwy. Bydd The Blossom Awards yn rhoi sylw i’w llwyddiant a’u cyfranogiad.

O fusnes a’r celfyddydau, i wyddoniaeth a’r sector elusennau, gobeithio y bydd The Blossom Awards yn galluogi pobl Cymreig-Tsieineaidd i herio canfyddiadau hen ffasiwn am eu hunaniaeth. Cofiwch annog ffrind, perthynas, cymydog neu gydweithiwr sy’n haeddu cael ei gydnabod i enwebu ei hunan.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Croesewir enwebiadau mewn 12 categori Gwobrau: Addysg; yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Entrepreneuriaeth; Busnes a Galwedigaethau; Peirianneg a Gwyddoniaeth; y Gwasanaeth Cyhoeddus; Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau; y Gymuned ac Elusennau; Cyflawnwyr Ifanc (dan 30 oed); Bwyd a Lletygarwch; Technoleg a Digidol; y Cyfryngau a Diwydiannau Creadigol.
  • Gwahoddir enillwyr i seremoni wobrwyo yng nghanol Llundain tua diwedd Hydref 2020.
  • Din ond unigolion all enwebu eu hunain – dim grwpiau.
  • Dim ond yr enwebai all gyflwyno enwebiadau ac mae’n rhaid gwneud hynny ar-lein ar y wefan.
  • Nid oes ffi nac unrhyw dâl arall i enwebu.
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree