Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Lansio llyfr coffa ar gyfer pawb sydd wedi marw yn sgil y pandemig COVID-19

  • Tweet
Friday, 22 May, 2020
Remember Me

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o Senedd Cymru Aberconwy – yn annog teulu, ffrindiau neu ofalwyr y rhai sydd weddi marw yn sgil COVID-19 i’w anrhydeddu drwy gofeb ar-lein newydd. Heddiw (22 Mai), lansiwyd ‘Remember Me’, llyfr coffa ar-lein newydd ar gyfer pawb oedd yn byw yn y DU sydd wedi marw yn sgil y pandemig coronafeirws. Gwahoddir pobl o bob ffydd a chredo i gyfrannu at Remember Me drwy gyflwyno enw, llun a neges fer i anrhydeddu’r sawl fu farw ar wefan Remember Me.

Lansiwyd Remember Me yn Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain, lle recordiodd aelodau o gôr ddarn arbennig o gerddoriaeth fel anthem ar gyfer y llyfr coffa. Y bwriad yw y bydd y wefan Remember Me yn dod yn gofeb ffisegol yn yr Eglwys Gadeiriol gyda chynlluniau wedi’u cymeradwyo ar gyfer cyntedd mewnol newydd yng nghroesfa’r Gogledd, a fydd, yn amodol ar gyllid, yn gofeb deilwng i bawb sydd wedi marw yn sgil y pandemig.

Wrth siarad am y fenter, dywedodd Janet:

"Rwy’n croesawu menter llyfr coffa digidol Remember Me yn fawr. Cydymdeimladau dwys i bawb sydd wedi colli anwyliaid i’r pandemig COVID-19 byd-eang.

“Yn y cyfnod heriol iawn hwn, mae’n hollbwysig ein bod yn cofio’r straeon dynol sydd wrth wraidd yr ystadegau. Mae Remember Me yn cynnig cyfle i rannu eu straeon a myfyrio amdanynt. Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi colli rhywun i’r feirws i dalu teyrnged iddynt ar wefan Remember Me.

Meddai Deon Eglwys Gadeiriol St Paul, y Tra Pharchedig David Ison:

"Am ganrifoedd, mae Eglwys Gadeiriol St Paul wedi bod yn lle i gofio effaith bersonol a chenedlaethol trasiedïau mawr, o golledion yn ystod rhyfel i ddinistr tân Grenfell Tower. Rydym ni wedi clywed cymaint o hanesion trist gan y rhai sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig, ac mae’n meddyliau a’n gweddïau gyda nhw. Mae pob person yn werthfawr ac yn haeddu cael eu cofio.

DIWEDD

Nodiadau:

  • Gall aelodau’r cyhoedd gofrestru manylion eu perthynas neu ffrind ‘Remember Me: A book of remembrance for the UK’ yn: www.rememberme2020.uk
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree