On Saturday (25/06/2022), Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, attended the Llanrwst show. Established some 140 years ago, the rural agricultural show promotes locally produced food and crafts. This annual event is an important date in the agricultural calendar, attracting competitors from all over North Wales but has sadly been missed over the past couple of years, due to COVID.
Commenting on the event, Janet said.
“Over the weekend I had a fantastic time attending the Llanrwst Agricultural show, meeting with constituents and industry experts form across Wales.
The pandemic has previously prevented the show from running in normal fashion, as such, I am truly delighted to see such an impressive turn out this year, with many thousands in attendance. Highlighting how much this event has been dearly missed, the vibrant community effort to organise it was certainly felt.
“This year’s show had an outstanding horticultural display, included an outstanding dog show and pig race, to name just some of the activities and displays showcased during the day. Aberconwy and North Wales have fantastic farmers and producers, and to be able to celebrate their resurgence and continued success, at any given time, is a wonderful opportunity. I would like to take this opportunity to congratulate all those who participated in and organised this year’s show, their hard work and efforts made this day an undeniable success.”
Commenting further, Janet added.
“I would also like to give my thanks to Gareth and Helen for their help and support with my stand this weekend. As the Member of the Welsh Parliament, I take great pride in being able to offer my assistance to everyone in the constituency. It’s brilliant to be able to re-connect with many familiar faces following the past three years and discuss ways in which I can help the local community. I very much look forward to returning to the Llanrwst Show next year.”
Cymraeg:
Ddydd Sadwrn (25/06/2022), mynychodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, sioe Llanrwst. Ers ei sefydlu tua 140 mlynedd yn ôl, mae’r sioe amaethyddol yn hyrwyddo bwyd a chrefftau sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ddyddiad pwysig ar y calendr amaethyddol sy’n denu cystadleuwyr o bob rhan o’r Gogledd, ond nid oedd wedi cael ei gynnal ers dwy flynedd oherwydd COVID.
Yn rhoi sylwadau ar y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Dros y penwythnos cefais amser gwych yn mynychu sioe Amaethyddol Llanrwst, yn cyfarfod etholwyr ac arbenigwyr diwydiant o bob rhan o Gymru.
Mae’r pandemig wedi atal y sioe rhag cael ei chynnal fel arfer yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly roeddwn i ar ben fy nigon yn gweld cymaint yn dod eleni, gyda miloedd yn bresennol. Roedd gwir deimlad o ymdrech llawn egni ymysg y gymuned wrth drefnu’r digwyddiad, a oedd yn amlygu’r ffaith bod pobl wedi gweld eisiau’r digwyddiad hwn yn ofnadwy dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Yn y sioe eleni, roedd arddangosfa arddwriaethol arbennig, sioe gŵn wych a ras foch ragorol - dim ond rhai o’r gweithgareddau ac arddangosfeydd a oedd i’w gweld yn ystod y dydd. Mae gan Aberconwy a’r Gogledd ffermwyr a chynhyrchwyr eithriadol, ac mae gallu dathlu eu hadfywiad a’u llwyddiant parhaus, ar unrhyw amser penodol, yn gyfle gwych. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr holl rai hynny a gymerodd ran ac a drefnodd y sioe eleni. Roedd eu gwaith caled a’u hymdrechion yn golygu bod y diwrnod yn llwyddiant ysgubol."
Yn rhoi sylwadau pellach, dywedodd Janet:
“Hoffwn ddiolch hefyd i Gareth a Helen am eu cymorth a’u cefnogaeth ar fy stondin dros y penwythnos. Fel Aelod o’r Senedd, rwy’n ymfalchïo mewn gallu cynnig fy nghymorth i bawb yn yr etholaeth. Mae’n wych gallu ailgysylltu â chynifer o wynebau cyfarwydd ar ôl y tair blynedd diwethaf a thrafod ffyrdd y gallaf helpu’r gymuned leol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Sioe Llanrwst y flwyddyn nesaf.”