Heddiw (01 Chwefror), mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi "cymeradwyaeth ddangosol" i brosiect Uwch Conwy. Mae'r prosiect hwn yn ceisio helpu i storio dyfroedd llifogydd yn yr ucheldir drwy arafu llif dŵr ac adfer rhostiroedd. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys blocio ffosydd ac adfer afonydd.
Mae dalgylch cyfan afon Conwy yn cwmpasu dros 574 km2 - ardal o faint Ynys Manaw. Mae'r prosiect cydweithredol yn cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda swyddog asiantaeth ar secondiad i'r Ymddiriedolaeth i fwrw ymlaen â'r gwaith. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod bellach yn anelu at gyflawni mentrau adfer mawn ac afonydd, ochr yn ochr â phrosiect Uwch Conwy, fel rhan o waith ehangach Partneriaeth Uwch Conwy.
Wrth sôn am y datblygiad cadarnhaol yn ei hymgyrch llifogydd barhaus, dywedodd Janet:
“Dylai cysylltu rheolaeth leol o'r tir â chyfleoedd newydd i'n cymunedau gwledig, mewn lleoedd fel Penmachno, barhau i fod yn gwbl allweddol i unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â phroblemau llifogydd hirsefydlog.
“Rwy'n croesawu'r newyddion y bydd y cyswllt hollbwysig hwn yn ganolog i brosiect Uwch Conwy, sydd bellach wedi cael cymeradwyaeth ddangosol gan Lywodraeth Cymru. Wedi'r cyfan, dim ond drwy weithio mewn cytgord â'n cymunedau gwledig – ceidwaid y tir hwn ers cenedlaethau – y bydd y prosiect hwn yn llwyddo.
“Dylai unrhyw ymyriad arfaethedig ar reoli ucheldiroedd barhau i gefnogi ffermio yn y Gogledd-orllewin, lle mae'r dulliau cynaliadwy yn gweithio law yn llaw â natur. Cydnabuwyd ers tro na all dull 'un ateb sy'n addas i bawb' tuag at bolisi amaethyddol ddelio â materion lleol.
“Byddaf yn parhau i gynnal cyfarfodydd gyda'r holl randdeiliaid i sicrhau bod arbenigedd rheoli tir ein ffermwyr lleol yn parhau'n rhan ganolog o'r prosiect hwn. Rwy'n cydnabod bod amheuon o hyd am allu CNC i gyflawn ei amcanion adfer afonydd."
DIWEDD