Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Llwyddiant ymgyrch arglawdd Tan Lan wrth i Cyfoeth Naturiol gytuno i ddirymu ardrethi draenio Ardal Draenio Mewnol Afon Conwy

  • Tweet
Monday, 11 January, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (11 Ionawr), mae Janet Finch-Saunders AC Aberconwy wedi croesawu'r newyddion bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cytuno i ddirymu ardrethi draenio Ardal Draenio Mewnol Afon Conwy yn llawn ar gyfer talwyr y tu ôl i Arglawdd Tan Lan.

Mae ardaloedd draenio yn bodoli ar wastatir fel arfer. Mae'r penderfyniad dirymu yn dilyn ymgyrch galed gan Mrs Finch-Saunders, a gyflwynodd lawer o sylwadau ffurfiol dros fisoedd lawer er mwyn deisebu am y canlyniad hwn.

Wrth sôn am y canlyniad cadarnhaol i ffermwyr lleol, dywedodd Janet:

“Rwy'n falch iawn bod fy ymgyrch dros ddirymu ardrethi draenio IDD 100% ar gyfer y rhai y tu ôl i Arglawdd Tan Lan wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol i'r trigolion dan sylw.

“Rwy'n credu ers tro mai dim ond dirymu ardrethi llawn fyddai'n adlewyrchu'n ddigonol y costau mae'r ceidwaid tir lleol hyn wedi'u hysgwyddo o ganlyniad i waith diweddar i Arglawdd Tan Lan.

“Hoffwn ganmol gwaith pwysig y ffermwyr lleol ar amddiffynfeydd llifogydd yn dilyn penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wrthod gwneud gwaith cynnal a chadw tan ddiwedd eu hastudiaeth hyfywedd. Yn bwysicach, mae eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf wedi sicrhau bod yr amddiffyniad hwn yn barod at fisoedd gwlyb y gaeaf.

“Er fy mod i'n sicr yn croesawu'r ateb cadarnhaol hwn i bryderon ardrethi IDD lleol, rwy'n ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod CNC yn atebol am glirio'r ffosydd ar hyd afon Conwy.

“Fel y dywedais wythnos diwethaf, mae'n warthus na wnaeth CNC drefnu cyfarfod o Grŵp Cynghori IDD Dyffryn Conwy yn dilyn y llifogydd dinistriol Storm Ciara y llynedd. Rwy'n credu bod criw CNC yn llawn bwriadau da, ond yn boddi dan waith yn rheolaidd.

DIWEDD

Llun: Arglawdd Tan Lan 2020

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree