Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Llywodraeth Cymru yn gwrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i lifogydd Dyffryn Conwy: ETO!

  • Tweet
Wednesday, 12 February, 2020
Janet
flooding
flooding
flooding
flooding
flooding

Unwaith eto, mae Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi gwrthod cynnal ymchwiliad annibynnol i fesurau lliniaru llifogydd yn Nyffryn Conwy. Mae’n disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Cyfoeth Naturiol Conwy i ymchwilio i’r hyn sydd angen ei wneud, a byddwn yn aros am eu hargymhellion cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd.

 

Hyn mewn ymateb i gwestiwn brys a gododd Janet Finch-Saunders, AC Aberconwy, a holodd y canlynol:

  1. All y Gweinidog ddweud wrthyf pam nad oedd rhybuddion llifogydd arferol Cyfoeth Naturiol Cymru ar waith mewn da bryd, o gofio’r holl fwletinau newyddion fod storm Ciara ar ei ffordd?
  2. Gan fod hwn yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad sylweddol, pa gyllid fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’r Awdurdod Lleol er mwyn helpu gyda’r gwaith clirio, a sut fydd hyn yn treiddio drwodd i’r holl drigolion a busnesau a gafodd eu taro mor wael, rhai ohonynt heb yswiriant oherwydd lefel y perygl llifogydd?
  3. O gofio’r digwyddiadau truenus dros y penwythnos, a fyddwch chi nawr yn adolygu’r cyngor a gawsoch gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn cefnogi’r galwadau niferus am adolygiad annibynnol o fesurau lliniaru llifogydd yn Nyffryn Conwy?
  4. A ddowch chi i Aberconwy i ymweld â’r rhai sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y digwyddiadau diweddar?   

 

Mewn ymateb i’r Gweinidog, meddai Janet:

 

“Rwy’n rhwystredig na allai’r Gweinidog roi’r sicrwydd yr oeddwn i wedi’i obeithio amdano heddiw.

 

“Roeddwn i’n Llanrwst ddoe, a chefais gyfle i weld yr holl lanast a’r difrod enbyd a achoswyd i siopau, busnesau a chartrefi, â’m llygaid fy hun.

 

“Mae’n dorcalonnus gweld unigolion yn gwbl ddiymadferth wrth frwydro i glirio’r mwd a’r carthion o’u cartrefi. 

 

“Rydyn ni angen ymchwiliad annibynnol er mwyn ystyried y darlun cyfan.

 

“Yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru oedd yn gyfrifol am ymchwilio i achosion y llifogydd fis Mawrth diwethaf, ac edrychwch lle rydyn ni arni heddiw.

 

“Rwy’n ofni na fydd ymchwiliadau’r awdurdod lleol a CNC yn mynd ddigon pell, ac y gwelwn ni achosion yr un mor ddifrifol o lifogydd mewn rhannau eraill o Lanrwst a’r Dyffryn cyn hir.

 

“Rwy’n erfyn ar CNC a’r awdurdod lleol i roi blaenoriaeth i gynnal ymchwiliadau a rhannu eu hargymhellion yn fuan iawn.

 

“Yn y tymor byr, mae angen i’r Gweinidog ddefnyddio’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys i roi cymorth dewisol i’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau nad yw’n wynebu baich ariannol diangen wrth roi cymorth a chynnal gwaith uniongyrchol yn sgil argyfwng mor fawr”.

 

DIWEDD

 

Lluniau:

 

Janet Finch-Saunders AC yn gofyn y cwestiwn brys; Llifogydd Llanrwst 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree