Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

Llywodraeth Cymru yn methu’r nod gyda pholisi gwael ar sesiynau hyfforddi

  • Tweet
Tuesday, 23 June, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn gofyn am esboniad gwyddonol pan na all pobl ifanc y wlad gael mynediad at wersi hyfforddi gan gadw pellter cymdeithasol.

O 22 Mehefin, bydd rhai cyfyngiadau ar ddefnyddio cyrtiau chwaraeon awyr agored yn cael eu llacio, ond bydd yn rhaid cadw rheolau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r rheoliadau’n ymwneud â chwaraeon cyswllt neu dîm ar waith o hyd. Roedd y newid yn dipyn o hwb i ddarpar gystadleuwyr y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, sy’n cael ailafael yn eu rhaglenni hyfforddi nawr.

Wrth siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet:

“Rwy’n croesawu’r newidiadau hynny sy’n caniatáu i’n hathletwyr gorau gael mynediad at gyfleusterau a chymorth i hyfforddi ledled Cymru a gweddill y DU. Fodd bynnag, ni fyddai’r athletwyr hyn wedi cyrraedd eu safonau uchel heb flynyddoedd o ymarfer a gwaith caled.

“Rwy’n bryderus iawn bod y penderfyniad i ganiatáu i neb heblaw’r athletwyr gorau hyfforddi yn benderfyniad gwael. Mae llawer o bobl ifanc, ddawnus wedi cysylltu â mi sydd wedi’u hatal rhag gallu cymryd rhan yn eu gweithgareddau arferol.

“Os yw’n plant yn cael mynd i’r ysgol ac ymweld â siopau gyda’u rhieni, mae’n rhaid i’r Dirprwy Weinidog egluro’r wyddoniaeth sy’n eu hatal rhan mynd i sesiynau hyfforddi 1-1, gan gadw pellter cymdeithasol, neu grŵp pêl-droed bach heb gysylltiad corfforol.

“Mae gennym gyfoeth o ddoniau chwaraeon ifanc yma yng Nghymru. Mae hyrwyddo chwaraeon yn bwysig i ddatblygiad personol ein plant, gan fagu hyder a chryfhau sgiliau gwaith tîm. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried y rheolau sy’n atal mynediad at sesiynau hyfforddiant chwaraeon ar gyfer ein pobl ifanc.”

DIWEDD

Llun: Gan Connor Coyne, Unsplash

  • Local News

You may also be interested in

Flood

Shadow Minister Presents Transformative Flood Plan for Wales

Wednesday, 27 January, 2021

Following the devastation caused by flooding across Wales due to Storm Christoph, Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, Energy, and Rural Affairs, has called on the Welsh Parliament to back her transformative six point plan for protecting communities.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree