Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Mae angen ymestyn profion gofal cymdeithasol i fynd i’r afael â’r cynnydd yn y Gogledd, meddai AS

  • Tweet
Monday, 1 June, 2020
Portrait of Janet Finch-Saunders

Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cynnydd sylweddol diweddar mewn achosion o COVID-19 yn y Gogledd drwy ymestyn profion ymhellach yn y sector gofal cymdeithasol. Dengys ffigurau a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y Gogledd (ar 30 Mai 2020) yn parhau i gofnodi’r nifer uchaf o achosion COVID-19 positif o holl ranbarthau Cymru.

Mae Gweinidog Gofal Cymdeithasol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi mynegi ei phryderon am gasglu ystadegau COVID-19, yn enwedig o ran yr unigolion sy’n derbyn gofal cartref a chymunedol.

Yn siarad am y sefyllfa, dywedodd Janet Finch-Saunders AS:

“Rwy’n rhannu pryderon fy etholwyr ynghylch y newyddion mai’r Gogledd sy’n cofnodi’r nifer uchaf o brofion COVID-19 positif y tu allan i Gaerdydd. Mae’r data diweddaraf i gael ei gyhoeddi yn datgelu gwir sefyllfa ein rhanbarth.

“Gyda demograffeg hŷn yn bennaf yn Aberconwy, rydw i wedi pledio ers tro y dylid ymestyn profion ledled y sector gofal cymdeithasol. Beth bynnag fo’r lleoliad neu faint y gymuned, dylid profi pawb sy’n derbyn cymorth gofal cymdeithasol os yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu ein staff rheng flaen dewr.

“Mae angen gwireddu’r addewidion. Felly, rwy’n erfyn ar Weinidogion Cymru i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran profion rhwng ein sectorau gofal cymdeithasol a gofal iechyd ar unwaith.

“Rydw i hefyd yn poeni am yr anwybodaeth dreiddiol o ran ystadegau COVID-19 a lleoliadau gofal cartref. Mae angen diweddariadau amlach a mwy o ddealltwriaeth o’r data os yw Llywodraeth Cymru yn mynd i lwyddo o gwbl yn ei phrotocol profi, olrhain, diogelu.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree