Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Mae busnesau twristiaeth angen gwybod ble maen nhw'n sefyll”

  • Tweet
Tuesday, 9 February, 2021
Llandudno

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am yr angen i fusnesau twristiaeth gael gwybod ble maen nhw'n sefyll o ran ailagor y sector.

 

Daw'r sylwadau yn dilyn galwadau gan y sector twristiaeth a chyn ei chyfres o fforymau rhithwir y bydd hi'n eu defnyddio i gynnal trafodaethau â busnesau lleol (Aberconwy):

  • Fforwm Gwestywyr: 9:30 – 11:00am 10/02/2021 
  • Fforwm Cyfleusterau Hunanarlwyo: 9:30 – 11:00am 17/02/2021
  • Fforwm Tafarndai, Bariau a Bwytai: 9:30 – 11:00am 24/02/2021
  • Fforwm Tai Gwestai a Chyfleusterau Gwely a Brecwast: 9:30 – 11:00am 3/03/2021

 

Wrth sôn am bwysigrwydd darparu cefnogaeth ac eglurder hanfodol i dwristiaeth, dywedodd Janet:

 

“Mae busnesau twristiaeth angen gwybod ble maen nhw'n sefyll, a dylen nhw fod yn ganolog i ddatblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru.

 

“O barciau gwyliau i westai, mae gan y sector cyfan yr hawl i wybod sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol.  

 

“Mae angen amser arnyn nhw i drefnu i recriwtio a hyfforddi staff, prynu stoc a rhywfaint o sicrwydd ynghylch pryd y gallan nhw ddisgwyl derbyn gwesteion unwaith eto.

 

“Er bod y coronafeirws yn gwneud yr hinsawdd yn ansicr ac yn heriol iawn i unrhyw lywodraeth, dylai Llywodraeth Cymru greu map ffordd fel y gall y sector yma yn Aberconwy gael rhyw fframwaith i weithio gydag ef. Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn gwybod ble maen nhw'n sefyll”.

 

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree