Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Mae ein Hosbisau yn Haeddu Mwy o Arian”

  • Tweet
Friday, 22 November, 2019
paper

Mae Hosbis Dewi Sant a Thŷ Gobaith wedi’u canmol yn y Senedd fel rhan o ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ofal Hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru. Yn ystod ei galwadau i Lywodraeth Cymru gynyddu’r cymorth ariannol a ddarperir i hosbisau, tynnodd Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, sylw at gyflwr ein cyfleusterau gofal lleol, ac at y ffaith nad ydyn nhw’n derbyn cymorth statudol am eu bod wedi’u lleoli yng Nghymru.

 

Yn dilyn ei haraith, dywedodd Janet:

 

“Rydyn ni’n ffodus i fod â chyfleusterau gofal lliniarol rhagorol yma yn Aberconwy.

 

“Bob blwyddyn, mae Tŷ Gobaith a Hosbis Dewi Sant yn darparu gofal a chymorth amhrisiadwy i unigolion sydd â chyflyrau cyfyngu oes, ac i’w ffrindiau a’u teuluoedd.

 

“Y fyddin o wirfoddolwyr lleol sy’n codi arian ar gyfer y gwasanaeth hollbwysig hwn yw ei asgwrn cefn. Heb eu hymdrechion, ni allai’r elusennau barhau i gynorthwyo cynifer o unigolion.

 

“Mae Hosbis Dewi Sant yn derbyn llai na 14% o’r cyllid sydd ei angen arno gan Lywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd lleol.

 

“Mae’r sefyllfa'r llawn cyn waethed yn Nhŷ Gobaith, sy’n derbyn dim ond mis o’i incwm o ffynonellau statudol.

 

“Yn blwmp ac yn blaen, mae Llywodraeth Cymru yn prynu un ac yn cael un ar ddeg am ddim.

 

“Er enghraifft, mae hosbisau Cymru ar eu colled o gymharu â rhai yn Lloegr sy’n derbyn 21% o’u cyllid o ffynonellau statudol, gyda’r Alban yn derbyn 47% o ffynonellau statudol.

 

“Yn amlwg, mae ein hosbisau yn haeddu mwy o arian, felly roeddwn i’n falch o sefyll gyda Mark Isherwood AC a galw am ddiweddaru’r fformiwla cyllido, sydd heb ei newid ers degawd.”

 

DIWEDD

 

Nodiadau:

 

Welsh Conservatives Debate: Hospice and Palliative Care (20/11/19)

 

Tŷ Gobaith

 

Hosbis Dewi Sant

 

Shadow Minister for Children Champions Tŷ Gobaith

 

Adroddiad 'Anghydraddoldebau mewn mynediad at ofal hosbis a gofal lliniarol"

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree