Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy yn annog preswylwyr i 'Gadw Cam Ymlaen Cyn y Gaeaf' gyda 10 awgrym defnyddiol

  • Tweet
Thursday, 2 November, 2017
Calon

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS: "Mae'n bwysig iawn cadw cam ymlaen cyn y gaeaf. Rwyf am i bawb ddeall pa gymorth sydd ar gael iddynt hwy, a hefyd ar gyfer eu teuluoedd a'u ffrindiau. Mae bod yn effeithlon o ran ynni a chadw biliau dan reolaeth yn bwysig iawn, felly byddwn i'n annog pobl i gysylltu â'u cyflenwr ynni i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ar gael"

 

Meddai peiriannydd British Gas, Rob Jones, sy'n cywiro a thrwsio boeleri yng Nghymru: "Gall y gaeaf fod yn amser heriol i gartrefi, ond mae rhai camau ymarferol y gallwch eu cymryd, gyda'n help, i sicrhau eich bod chi'n barod:

 

  1. Cael y fargen orau

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod prynu ynni'n syml, yn glir ac yn deg i gwsmeriaid - am bob cwsmer ar dariff safonol amrywiol, byddant yn cael Gwiriad Iechyd Ynni Blynyddol i sicrhau eu bod ar y tariff cywir.

 

  1. Cael mesuryddion smart

Bydd eich cyflenwr ynni yn gallu gosod mesuryddion smart, sy'n golygu'r diwedd i filiau amcangyfrifedig. Mae monitor ynni smart yn dangos faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio, â'r hyn rydych chi'n ei wario. Dysgwch fwy drwy ymweld â www.britishgas.co.uk/smartmeters

 

  1. Ymddiriedolaeth Ynni British Gas

Mae'r ymddiriedolaeth annibynnol hon yn rhoi cyngor wyneb-yn-wyneb, cymorth ariannol a grantiau i helpu i glirio dyledion ynni a chartrefi. Dysgwch fwy drwy ymweld â: www.britishgasenergytrust.org.uk.

 

 

  1. Gwaedwch eich rheiddiaduron: i sicrhau eu bod yn gweithio'n iawn. Os oes gan eich rheiddiaduron fannau oer ar y brig, mae hyn yn golygu bod gennych aer yn y system, felly bydd angen i chi eu gwaedu i'w cael i weithio'n effeithlon.

 

  1. Rhwystrwch yr awel: Gwnewch yn siŵr bod eich holl ffenestri a drysau wedi eu selio yn iawn i atal aer cynnes rhag dianc. Am unrhyw rhai sydd ddim wedi selio'n gywir, gosodwch ffitiau drafft, mae'n ffordd gyflym a rhad i leihau eich biliau ynni.

 

  1. Aros yn ddiogel: Mae'n hynod o bwysig cael larwm carbon monocsid â’ch bod yn ei wirio'n rheolaidd.

 

  1. Carwch eich bwyler: Gwiriwch i sicrhau bod eich bwyler yn gweithio'n iawn cyn i'r gaeaf ddod.

 

  1. Insiwleiddio’ch pibellau: Mae pibellau sy'n torri yn broblem fawr yn ystod misoedd y gaeaf. Er mwyn helpu i atal hwn, gwnewch yn siŵr bod eich pibellau wedi'u hinswleiddio'n gywir trwy lagio, y gellir eu prynu'n rhad o'r rhan fwyaf o siopau DIY.

 

  1. Edrych ar ôl eich draeniau: Os ydych chi'n ceisio edrych ar ôl eich draeniau allanol, mae'n syniad da sicrhau eu bod yn glir o falurion ar y pwynt y maent yn mynd i mewn i'r ddaear.

 

  1. Rheoli'ch gwresogi o bell gyda Hive Active Heating: Mae defnyddio Hive Active Heating yn golygu y gallwch reoli eich gwresogi a'ch dŵr poeth o bell oddi wrth eich ffôn smart gyda'r app Hive. Dysgwch fwy drwy ymweld â: www.britishgas.co.uk/hive

 

 

Mae mwy o fanylion am yr holl awgrymiadau hyn i'w gweld yn http://po.st/wintertoptips

 

  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree