Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Maes Awyr Manceinion – Dyffryn Conwy: AC yn galw am gysylltiad rheilffordd gwell.

  • Tweet
Friday, 16 February, 2018
Train

Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, mae Janet Finch-Saunders AC wedi manteisio ar y cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol Llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy drwy holi a fyddai modd cyflwyno gwasanaeth trên uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog.

Meddai Janet:

“Yn ddiweddar, ro’n i’n falch o weld Llywodraeth Cymru yn cytuno â mi ynghylch pwysigrwydd llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy, yn enwedig i’n diwydiant twristiaeth.

“Yn ogystal â dathlu’r rheilffordd yn genedlaethol drwy gael cydnabyddiaeth gan bobl sy’n gwirioni ar y rheilffyrdd fel Michael Portillo, mae’n darparu cysylltiad gwych i rai o atyniadau mwya’r Gogledd, yn cynnwys Gerddi Bodnant o orsaf Tal-y-cafn; Surf Snowdonia o Dolgarrog; Ystafelloedd Te Tu Hwnt i’r Bont o Lanrwst; a mynyddoedd Eryri – yn cynnwys yr Wyddfa – o Fetws-y-Coed.

“Gyda masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau dan ystyriaeth ar hyn o bryd mae gennym gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar ddyfodol y llinell rheilffordd hon, felly rydw i am weld mwy’n cael ei wneud i hybu ei fanteision i drigolion lleol, a’n diwydiant twristiaeth yn arbennig.

“Ffordd wych o wneud hyn fyddai cyflwyno gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog. Bydd hyn yn helpu i ddod â mwy o ymwelwyr i Ddyffryn Conwy, gan y byddai’r maes awyr yn dod yn llwybr cwbl ryngwladol i Barc Cenedlaethol Eryri”.

DIWEDD

Dogfennau

Cwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro a ellir cyflwyno gwasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog fel y gall Dyffryn Conwy elwa ar gysylltiad rheilffordd gwell, ac amlinellu unrhyw ystyriaethau a wnaed ar gyfer hyn yn y trafodaethau ar fasnachfraint newydd Cymru a’r Gororau?

Nodiadau

Holi Ysgrifennydd y Cabinet am ddyfodol hirdymor Llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy

AC Aberconwy yn derbyn sicrwydd am ddyfodol Llinell Rheilffordd Dyffryn Conwy

Caffael masnachfraint rheilffordd Cymru a’r Gororau 2018

Cynnydd yn nheithwyr llinell rheilffordd Dyffryn Conwy  diolch i Michael Portillo 

  • Local News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree