Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Oedi mewn triniaethau colli golwg yn y Gogledd – galw am gynllun gweithredu

  • Tweet
Thursday, 3 December, 2020
Canva Stock

Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r oedi mewn triniaethau colli golwg ledled y Gogledd. Cododd ei phryderon ar ffurf  cwestiwn i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ymyrrodd ar ôl i RNIB Cymru rybuddio bod miloedd yn fwy o bobl yng Nghymru mewn perygl o golli eu golwg heb obaith i’w adfer oherwydd yr oedi cyn triniaethau. Yr achos pryder mwyaf yw’r wybodaeth ddaeth i’r fei bod 10 mis wedi mynd heibio heb gyhoeddi data misol ar gleifion allanol offthalmoleg.

Yn rhoi sylwadau ar ei chyfraniad yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Janet:

“Mae’n achos pryder mawr iawn bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy’n aros y tu hwnt i’w dyddiad triniaeth diogelwch clinigol ar gyfer triniaeth colli golwg, ynghyd â chynnydd yn nifer y bobl sy’n aros am lawdriniaeth cataract.

“Yn wir, datgelodd cais rhyddid gwybodaeth diweddar gan BBC Wales i bob bwrdd iechyd fod 33,000 o bobl sydd mewn perygl o golli eu golwg yn aros yn rhy hir am driniaeth, gyda nifer y bobl sy’n aros mwy na naw mis am lawdriniaeth cataract wedi cynyddu bedair gwaith.

“Mae’r raddfa risg uwch yn gwbl annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas fodern. Rwy’n erfyn ar  Lywodraeth Cymru i werthuso pa gamau brys y gellir eu cymryd i fynd i’r afael â’r amser aros, gan nad yw’n hi’n opsiwn llaesu dwylo mwyach. Mae’n rhaid i’r Gweinidog sylweddoli bod golwg pobl yn dibynnu ar roi cynlluniau gweithredu go iawn ar waith.

“Rwyf hefyd yn adleisio galwadau gan RNIB Cymru, sy’n bryderus tu hwnt fod y pandemig wedi dwysau anghydraddoldebau sy’n bodoli eisoes o ran derbyn gwybodaeth iechyd cyhoeddus hygyrch.  

“Yn wir, datgelodd eu hymchwil diweddar fod un o bob pedwar o’r rhai a holwyd fel rhan o’r  arolwg wedi cael anhawster cael gafael ar wybodaeth ar ffurf hygyrch. Felly, rwy’n erfyn ar y Gweinidog i sicrhau ei bod hi’n haws i gael gafael ar ddeunydd cyfathrebu Llywodraeth Cymru ar unwaith a’i bod yn rhoi blaenoriaeth i hynny.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Cliciwch yma i ddarllen galwad yr RNIB am well hygyrchedd. 
  • Cliciwch yma i ganfod mwy am Gais Rhyddid Gwybodaeth BBC Wales. 

Ffoto: Canva Stock

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree