Since 1834 Penmaenmawr Quarry, one of the biggest reserves of rock in the UK, has been mined. During a visit to meet the Hanson team, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, saw first-hand the exceptional operation of the business, and learnt of the potential Penmaenmawr has to make an even greater contribution to infrastructure projects of local, regional, and national importance.
Commenting after her visit, Janet said:
“With 90 million tonnes of rock in Penmaenmawr, and the considerable demand for the material across the country, the quarry is well placed to continue making a key contribution to infrastructure projects for decades to come.
“We have seen the rock used locally, such as part of the sea defences at Llanfairfechan and Penrhyn Bay, and in different locations across the trunk road network in North and Mid Wales. However, I hope that even more demand will come from further afield, especially as the company has invested approximately £300,000 to repair, renew and refurbish its rail link so to support the delivery of rail borne aggregates into markets in England.
“The community is close to the heart of Hanson. Alongside continuing to provide jobs for locals, I was pleased to learn of the quarry tours they undertake for locals, the donations given to local causes, and special efforts such as decorating the famous clock!
“My sincere thanks go to the whole team for having such a sophisticated operation that is essential to the national economy”.
ENDS
Notes:
Penmaenmawr rail link reopens after a decade
Mae gwaith cloddio wedi bod yn mynd rhagddo yn Chwarel Penmaenmawr, un o ffynonellau cerrig mwyaf y DU, ers 1834. Yn ystod ymweliad i gyfarfod â thîm Hanson, gwelodd Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, y drefn eithriadol o weithio gyda’i llygaid ei hun. Dysgodd hefyd am allu Penmaenmawr i wneud cyfraniad mwy fyth at brosiectau seilwaith o bwysigrwydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Ar ôl ei hymweliad, dywedodd Janet:
“Gyda 90 miliwn tunnell o greigiau ar gael ym Mhenmaenmawr, a’r galw sylweddol am y deunydd ledled y wlad, mae’r chwarel mewn sefyllfa dda i barhau i wneud cyfraniad allweddol at brosiectau seilwaith am ddegawdau i ddod.
“Rydyn ni wedi gweld y graig yn cael ei defnyddio yn lleol, fel rhan o’r amddiffynfeydd môr yn Llanfairfechan a Bae Penrhyn, ac mewn gwahanol leoliadau ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yn y gogledd a’r canolbarth. Fodd bynnag, rwy’n gobeithio y bydd galw mwy yn dod o ardaloedd pellach i ffwrdd, yn enwedig gan fod y cwmni wedi buddsoddi tua £300,000 i atgyweirio ac adnewyddu ei gyswllt rheilffordd er mwyn cefnogi’r gwaith o ddosbarthu agregau ar drên i farchnadoedd yn Lloegr.
“Mae’r gymuned yn agos at galon Hanson. Yn ogystal â pharhau i ddarparu swyddi yn yr ardal, roeddwn yn falch o ddysgu am y teithiau o gwmpas y chwarel sy’n cael eu cynnig i bobl leol, rhoddion y cwmni i achosion da lleol, ac ymdrechion arbennig fel addurno’r cloc enwog!
“Rwy’n diolch o waelod calon i’r tîm cyfan am gynnal trefn weithio mor soffistigedig sy’n hanfodol i’r economi genedlaethol”.
DIWEDD
Nodiadau:
Cyswllt rheilffordd Penmaenmawr yn ailagor wedi degawd
Llun:
Janet Finch-Saunders AS yn Chwarel Penmaenmawr