Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Janet Finch-Saunders AS, wedi annog Llywodraeth Cymru i egluro a fydd yr arian a neilltuwyd ar gyfer cronfa £35 miliwn ar gyfer ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thwf yn dal ar gael i fusnesau cymwys.
Yn ôl datganiad i'r wasg adeg ei lansio, nod y cyllid oedd cefnogi 1,000 a mwy o fusnesau, helpu i greu 2,000 o swyddi newydd a diogelu 4,000 o swyddi eraill. Roedd y broses ymgeisio ar gyfer £35 miliwn o gyllid busnesau bach a chanolig i fod i agor ym mis Tachwedd, a hynny'n uniongyrchol drwy awdurdodau lleol.
Fodd bynnag, mewn ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, cadarnhawyd bod y gronfa bellach wedi oedi oherwydd yr angen i fusnesau, awdurdodau leol a Llywodraeth Cymru ymateb i Omicron a'r mesurau diogelu iechyd cyhoeddus newydd."
Wrth sôn am yr angen am eglurder, dywedodd Janet:
“Bydd busnesau cymwys ledled Cymru a oedd wedi cymryd yr amser i nodi sut y gallai'r buddsoddiad arfaethedig eu helpu i ddatblygu eu busnes mewn ffyrdd newydd arloesol a chefnogi swyddi newydd yn holi pa mor hir fydd yr oedi hwn yn para.
“Rydym angen ateb clir ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, p'un a yw’r gronfa £35 miliwn hon wedi'i chlustnodi i gefnogi datblygiad busnes a'n hadferiad gwyrdd.
“O ystyried bod y gronfa hon yn ceisio helpu busnesau i fynd i'r afael â rhai o'r prif broblemau sy'n wynebu Cymru, gan gynnwys llenwi'r bylchau sgiliau yn y sectorau craidd a mynd i'r afael â newid hinsawdd, mae pryder y gallai oedi hir effeithio ar ymgais y genedl i gyrraedd ein targed allyriadau di-garbon net sy'n gyfreithiol rwymol.
“Os ydyn nhw wedi tyrchu i'r pot ariannu er mwyn helpu gyda chynlluniau cymorth Omicron presennol, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar sut y bydd yn helpu busnesau gyda'u hailddatblygiad tymor hir a'u cynlluniau datgarboneiddio."
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS