Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Pryder am yr henoed a’r rhai sy’n agored i niwed yn dilyn cyhoeddiad cyfyngiadau symud lleol Conwy

  • Tweet
Wednesday, 30 September, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (30 Medi), mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi sôn am ei phryder am etholwyr sy’n agored i niwed, yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau symud lleol yn Sir Conwy o 6pm ddydd Iau 1 Hydref 2020. Neithiwr, gofynnodd Mrs Finch-Saunders sawl cwestiwn brys i Weinidog Iechyd Cymru am gymorth i’r henoed a’r rhai sy’n agored i niwed.

Mae eithriadau i’r cyfyngiadau yn cynnwys teithio i’r ysgol neu i weithio os na allwch weithio gartref. Gall pobl deithio i brynu bwyd a chyflenwadau meddygol, ceisio cymorth meddygol neu fynd at y milfeddygon, a symud tŷ.

Wrth sôn am ei phryder, dywedodd Janet:

“Rwy’n ofni’n fawr yr effaith y gallai’r cyfyngiadau diweddaraf hyn ei chael ar rai o’m hetholwyr bregus ac oedrannus, sydd eisoes wedi treulio llawer o’r flwyddyn wedi ynysu oddi wrth eu hanwyliaid.

“Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Age UK yn gynharach eleni fod dros ddau o bob pump o bobl 70 oed a throsodd yn credu bod y Coronafeirws wedi effeithio’n wael ar eu hiechyd meddwl. Mae hyn yn bryder gwirioneddol yn fy etholaeth i, lle mae’r ddemograffeg yn tueddu tuag at etholwyr hŷn.

“Drwy gydol y cyfyngiadau symud blaenorol, gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy waith gwirioneddol ganmoladwy wrth ddarparu rhwydwaith gref o gefnogaeth i’n cymunedau lleol. Ond fe wnaeth hynny gostio i’n hawdurdodau lleol, ac maen nhw’n dal i ddioddef yn sgil diffyg cymorth ariannol wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

“Felly, rwyf wedi annog Llywodraeth Cymru i ystyried adolygu eu rheolau er mwyn sicrhau bod rhwydwaith cymorth cariadus yn cael ei ddarparu i rai o bobl fwyaf agored i niwed cymdeithas. Rhaid i awdurdodau sicrhau bod parch dyledus yn cael ei roi i’n hawl i fywyd preifat a theuluol.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree