Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Pryderon am ddirywiad yn y farchnad dai yng Nghymru er gwaethaf datrysiadau technoleg werdd

  • Tweet
Wednesday, 4 November, 2020
Ffoto: Ffoto Sandy Millar ar Unsplash

Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi gofyn i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r gostyngiad yng nghyfradd cwblhau tai Cymru drwy fabwysiadu datrysiadau technoleg werdd.

Defnyddiodd Mrs Finch-Saunders araith gerbron sesiwn Cyfarfod Llawn rhithwir y Senedd i annog y weinyddiaeth i beidio â rhwystro mentrau adeiladu cartrefi newydd arloesol, gan gynnwys gweithgynhyrchu oddi ar y safle a reolir gan gyfrifiadur. Daeth ei haraith yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd Cymru 2020. Mae bron i hanner cleientiaid y diwydiant adeiladu yn disgwyl gweld cynnydd mewn adeiladu oddi ar y safle yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Meddai Janet:

“Trist iawn yw gweld bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â mynd i’r afael ag argyfwng tai’r genedl. Mae ystadegau’r trydydd chwarter wedi datgelu bod gostyngiad o 17% wedi bod mewn cofrestriadau tai newydd ledled Cymru, o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Roedd gostyngiad o 5% hefyd yn y tai newydd a gafodd eu cwblhau, wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn.

“Gellir mynd i’r afael â’r mater hwn drwy fabwysiadu mentrau adeiladu tai newydd arloesol, gan gynnwys gweithgynhyrchu oddi ar y safle dan reolaeth gyfrifiadurol. Ond mae Llywodraeth Cymru yn ein rhwystro rhag gwneud hyn. Mae pedwar cant o dai fforddiadwy MMC (Dulliau Adeiladu Modern) i fod i gael eu hadeiladu’r flwyddyn nesaf, ond deallaf fod landlordiaid cymdeithasol wedi cyflwyno cynigion IHP yn cynnwys dros 850 o gartrefi MMC.

“Pam nad yw’r ceisiadau hyn yn fwy llwyddiannus? Dylem ddangos y ffordd ymlaen i’r byd o ran darparu cartrefi MMC fforddiadwy, gan gymysgu technoleg newydd gyda deunyddiau traddodiadol, er mwyn i’r adeiladau hyn gyfrannu at gefnogi a hyrwyddo adnoddau o Gymru, fel llechi a gwlân. 

“Trwy gefnogi mentrau technegol arloesol sy’n creu cartrefi sy’n garbon niwtral neu’n garbon oddefol, gellir mynd i’r afael â’r pryder am y stoc tai ar unwaith. Mae’n rhaid gwneud yn lle dim ond dweud. Gallai hefyd fod yn achubiaeth economaidd wrth i ni adfer ar ôl y Coronafeirws, gan ein bod ni’n gwybod fod y pandemig wedi effeithio’n fawr ar ein hoedolion ifanc a’n prentisiaid.

“Yn wir, fe wnaeth Sefydliad Siartredig Tai Cymru alw am strategaeth gweithlu i ddiogelu dyfodol y sector tai. Trwy fabwysiadu’r datrysiadau technolegol hyn ymhellach, byddwn yn cynnig swyddi coler werdd hirdymor, gan helpu gweithwyr i ddatblygu pob math o sgiliau newydd, gan sicrhau bod Cymru’n barod ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:   

  • Am ragor o wybodaeth am ddata Ch3 y stoc tai, cliciwch yma.  
  • Mae trawsgrifiad o araith Janet ar gael yma. 

Ffoto: Ffoto Sandy Millar ar Unsplash

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree