Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd gwaith yn cael ei wneud i newid yr uniadau ar draphont Glanconwy, yng nghyffordd 19 ar yr A55, mae Janet Finch Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi gofyn am sicrwydd ar frys na fyddwn yn gweld yr anhrefn a welwyd ar y briffordd adeg y gwaith ar Gylchfan Black Cat byth eto.
Disgwylir i’r gwaith gychwyn ddydd Gwener 29 Ionawr, a gallai’r draphont uwchben cyffordd 19 fod ar gai am hyd at bythefnos. O dan y cynlluniau presennol, bwriedir creu gwyriad i draffig lleol drwy’r gylchfan a’r ffyrdd ymuno ac ymadael islaw.
A hithau’n ymwybodol o bryderon lleol am y cynlluniau, mae Janet wedi cyflwyno’r Cwestiwn Ysgrifenedig canlynol:
“Pa asesiad o effaith sydd wedi’i wneud o’r gwyriadau traffig ger y gylchfan ar y llif traffig sy’n dod i’r gogledd o Lanconwy ar yr A470 yn ystod y gwaith newid uniadau ar Draphont Glanconwy?”
Yn ôl ffigurau swyddogol, yn ystod y 30 blynedd diwethaf, amcangyfrifir bod dros 370 miliwn o gerbydau wedi pasio dros uniadau’r draphont ers ei hagor ym 1991.
Gan roi ei sylwadau ar y pryder, dywedodd Janet:
“Er fy mod yn croesawu’r gwaith angenrheidiol i sicrhau diogelwch a hirhoedledd Traphont Glanconwy, ni allwn weld yr amodau traffig a welwyd wrth wella cylchfan Black Cat yn cael eu hailadrodd byth eto.
“Fel Cymru gyfan, mae’r ardal yn parhau dan Gyfyngiadau Lefel 4. Mae pryder lleol nawr y gallai traffig gynyddu’n ddirwystr o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith, gan olygu bod gweithwyr allweddol yn cael eu dal mewn cerbydau sy’n segura, pobl yn methu apwyntiadau i gael eu brechu a thrigolion yn gorfod bod y tu allan i’w cartrefi yn fwy nag y dylent.
“Dyna pam fy mod wedi cyflwyno Cwestiwn Ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru yn pennu pa asesiad o effaith sydd wedi’i wneud ar y llif traffig yn dod o’r gogledd o Lanconwy ar yr A470 yn sgil gwyro’r traffig drwy’r gylchfan.
“Er bod angen cau’r rhan hon o’r gerbytffordd yn llwyr yn unol â’r bwriad er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, mae’n rhaid rhoi sicrwydd bod Traffig Cymru a’r adran yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol wedi dysgu gwersi o anhrefn traffig y llynedd.”
DIWEDD
Ffoto: William Buist ar Unsplash