Mewn dadl ar dai heddiw, pwysodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, ar Lywodraeth Cymru i "annog dyhead" drwy ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys adeiladau y mae angen eu hadnewyddu a thrwy gael gwared ar y dreth trafodiadau tir i brynwyr tro cyntaf.
Daw'r ymyriad wrth i argyfwng tai barhau yng Nghymru, gydag amcangyfrifon bod angen cymaint â 1,400 o gartrefi ychwanegol ar y Gogledd bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae'r data diweddaraf ar anheddau newydd a gwblhawyd yn dangos mai dim ond 1,284 a gafodd eu darparu.
Ar ôl ei chyfraniad, meddai Janet:
“Mae gennym gyfle gwirioneddol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai presennol, sydd angen gweithredu trawsbleidiol uniongyrchol er mwyn mynd i'r afael ag ef. Gan fod Cymru wedi gweld y twf mwyaf ym mhris tai yn y DU, gyda chynnydd o 11% ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae'n rhaid cymryd camau fel y gall prynwyr tro cyntaf brynu tŷ.
“Drwy ymestyn y cynllun Cymorth i Brynu i gynnwys adeiladau sydd angen eu hadnewyddu a gweithio i ddileu treth trafodiadau tir i brynwyr tro cyntaf, gallwn leddfu effaith y blaendaliadau uwch i brynwyr ac annog dyhead ymhlith ein pobl ifanc. Wedi'r cyfan, er mwyn creu Cymru well, dylem ni ddefnyddio tai fel ffordd o roi hwb i economi Cymru.
“Gyda diffyg yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu ledled y wlad, ac er mwyn mynd i'r afael â'r ffaith bod nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd wedi gostwng traean ers 1999, rydw i wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru hefyd i fynd ati i greu amgylchedd mwy deniadol i adeiladwyr fuddsoddi yma, gan sicrhau bod safleoedd a ddyrennir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw cyn y bydd unrhyw gynllun wrth gefn yn cael ei roi ar waith.
“Mae gan dai cymdeithasol rôl allweddol hefyd o ran lliniaru'r rheini sydd ar reng flaen yr argyfwng tai. Fel y dywedais y prynhawn 'ma, drwy adfer y cynllun Hawl i Brynu yng Nghymru, ail-fuddsoddi enillion gwerthiant mewn rhagor o dai cymdeithasol a diogelu cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd, gallwn rymuso llawer o bobl leol sydd ddim yn gallu rhentu na phrynu cartref yn eu cymuned eu hunain i gael rhywle y gallant ei alw’n gartref”
DIWEDD
Llun gan Sandy Millar ar Unsplash