Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Pwyso ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o gymorth i’r Eisteddfod Genedlaethol

  • Tweet
Thursday, 18 October, 2018
Eisteddfod

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llanrwst ymhen llai na blwyddyn. Mae’r ŵyl arbennig hon yn rhan allweddol o strategaeth iaith Llywodraeth Cymru, felly mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi bod yn galw yn y Senedd i Lywodraeth Cymru roi mwy o gymorth i’r ŵyl. 

Bu Janet yn dadlau ers tro bod angen adeiladu gorsaf drenau dros dro ger y maes. Hefyd, ar ôl darganfod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi llai o gymorth ariannol i’r Eisteddfod eleni, mae Janet wedi galw am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru er mwyn dileu unrhyw rwystrau ariannol i bobl sydd am fynychu’r digwyddiad sy’n para wythnos.

Meddai Janet:

“Fel fy etholwyr a thrigolion ledled Cymru, rwy’n edrych ymlaen at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.

“Mae’n rhaid canmol cymunedau ledled Sir Conwy sydd wedi dod at ei gilydd i geisio cyrraedd y targed o £320,000 er mwyn helpu i dalu am y dathliad ardderchog hwn o iaith, diwylliant a doniau Cymru.

“Er bod pobl Sir Conwy yn chwarae eu rhan yn ddi-os, mae’n ymddangos i mi fod cefnogaeth Llywodraeth Cymru braidd yn wan.  

“Mae’r cyllid sy’n cael ei ddyrannu i’r Eisteddfod Genedlaethol wedi gostwng i £697,300 eleni, ac nid yw wedi cynyddu’n sylweddol ers 2015-16.

“Mae difrifoldeb y sefyllfa yn amlwg o ystyried bod yr Eisteddfod yn rhan allweddol o’r strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Felly, er mwyn helpu’r Eisteddfod i hyrwyddo’r Gymraeg a chael effaith gadarnhaol ar gynulleidfa leol a byd-eang, rwy’n awyddus i weld rhwystr ariannol sylweddol yn cael ei ddileu, sef cost tocynnau.

“Roedd mynediad am ddim yn llwyddiant mawr ym Mae Caerdydd, felly pam na all Llywodraeth Cymru gefnogi’r un polisi yn Llanrwst?”

DIWEDD

Cwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad gan Janet Finch-Saunders AC i’r Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

Faint o gymorth ariannol a roddodd Llywodraeth Cymru i Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2015, 2016, 2017, a 2018, faint y bydd yn ei roi yn 2019, ac a yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl allweddol y mae’r ŵyl yn ei chwarae o ran annog pobl i ddefnyddio a dysgu Cymraeg?

Ymateb y Gweinidog:

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rôl allweddol y mae’r ŵyl yn ei chwarae o ran annog pobl i ddefnyddio a dysgu Cymraeg. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwneud cyfraniad allweddol at gyflwyno Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, ac rwy’n llongyfarch yr Eisteddfod ar lwyddiant yr ŵyl fywiog eleni ym Mae Caerdydd. Cynhelir trafodaethau â swyddogion yr Eisteddfod dros y misoedd nesaf i ystyried sut mae Llywodraeth Cymru yn gallu cynorthwyo’r Eisteddfod i ddatblygu mentrau newydd dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae cyllid ar gyfer yr Eisteddfod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd dan sylw fel a ganlyn:

2015-16: £603,000

2016-17: £627,000

2017-18: £739,900

2018-19: £697,300

Nid yw cyllid ar gyfer 2019-20 wedi’i gytuno eto.

Nodiadau:

Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg

  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree