Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

'Rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â gadael i awdurdodau lleol ysgwyddo'r bil Tracio, Olrhain a Diogelu'

  • Tweet
Thursday, 25 June, 2020
COVID-19

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru heddiw (25 Mehefin) i sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn ysgwyddo'r baich o dalu am y rhaglen Tracio, Olrhain a Diogelu. Daeth ei hymyriadau ar ôl i ffigurau ddatgelu y gallai cynghorau Cymru wynebu diffyg o tua £173 miliwn, drwy golli incwm a chynnydd mewn costau. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi awgrymu hefyd bod perygl y bydd y clwyf yn bwrw cysgod hir dros wasanaethau lleol hanfodol am flynyddoedd i ddod.

Meddai Janet wrth drafod y mater:

“Mae ein Hawdurdodau Lleol wedi gwneud eu gorau glas i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol arferol a sicrhau eglurder i drigolion o dan amgylchiadau heb eu tebyg yn ystod pandemig COVID-19.

“Yn rhy aml yn ystod y cyfnod hwn, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu'n anghyfrifol at wariant llywodraeth leol drwy newid y cyfrifoldeb am ddarparu rhaglenni polisi ar raddfa fawr.

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru addo na fydd ein Hawdurdodau Lleol yn ysgwyddo'r bil wrth helpu i weithredu'r polisi Tracio, Olrhain a Diogelu.

“Y ffaith drist amdani yw bod Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn wynebu ansicrwydd ariannol. Rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddarparu sicrwydd hirdymor ar frys i gefnogi ein cynghorau mewn cyfnod o golli incwm a chynnydd mewn gwariant o ganlyniad i'r Coronafeirws.”

DIWEDD

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree