Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

Rhybudd AS Aberconwy am gynhyrchion harddwch trydanol peryglus sydd ar werth ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud

  • Tweet
Tuesday, 16 June, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS wedi ymuno â’r elusen diogelwch defnyddwyr flaenllaw Electrical Safety First i rybuddio bod mwy nag un o bob tri o bobl yng Nghymru naill ai wedi neu yn ystyried prynu cynnyrch harddwch trydanol ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud.

Mae Janet Finch-Saunders AS wedi clywed gan yr elusen defnyddwyr Electrical Safety First am eu hymchwiliad a ganfu offer fel clipwyr gwallt, offer cael gwared ar flew ac eitemau trydanol salon eraill sydd ar werth ar-lein nad ydynt yn addas i’w gwerthu i ddefnyddwyr yng Nghymru fel y’u hysbysebwyd, gan eu rhoi mewn perygl o sioc drydanol a thân.

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 mae drysau pob salon trin gwallt a harddwch yng Nghymru ar gau dros dro. Rydym yn gwybod bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y bobl sy’n ystyried torri eu gwallt eu hunain – a dangosodd dadansoddiad o ddata Google Trends bod mwy o bobl nag erioed wedi chwilio am glipwyr gwallt ym mis Ebrill.

Meddai Janet Finch-Saunders AS:

“Gyda drysau lleoedd trin gwallt a harddwch ar gau yng Nghymru, testun pryder i mi oedd clywed am ymchwil sy’n datgelu bod mwy nag un o bob tri (38%) oedolyn yng Nghymru naill ai wedi prynu neu’n ystyried prynu eitem harddwch drydanol fel clipwyr gwallt neu offer cael gwared ar flew drwy farchnadoedd ar-lein.

“Mae Electrical Safety First wedi dweud wrthyf am eu pryderon am gynhyrchion harddwch peryglus yn cael eu gwerthu ar-lein – ac efallai na fydd yn amlwg ar unwaith o’r hysbysebion pam y gallent fod yn beryglus.

“Rwyf o blaid codi ymwybyddiaeth o berygl prynu cynhyrchion ar-lein nad ydynt yn addas i’w defnyddio yng Nghymru gan eu bod yn cael eu hysbysebu yn aml heb blygiau’r DU, ac yn cael eu gwerthu gydag addaswyr teithio o safon isel i’w defnyddio’n barhaus. Mae’r Elusen wedi dweud wrthyf ei bod hi’n anghyfreithlon eu gwerthu fel hyn a bod perygl o sioc drydan neu dân yn eich cartref.”

Fel rhan o ymchwiliad brys, dadansoddwyd 15 eitem gan yr elusen, o sampl cyfartal o Amazon Marketplace, eBay a Wish. Ar sail asesiad gweledol o’r eitemau fel yr oeddynt yn cael eu hysbysebu, gwelwyd bod pob un yn beryglus iawn i’r defnyddiwr. Roedd clipwyr gwallt a ffeiliau ewinedd trydan sy’n cael eu gwefru drwy’r prif gyflenwad yn cael eu hysbysebu’n gyson heb blygiau’r DU, ac yn cael eu gwerthu yn lle hynny gydag addaswyr teithio o safon isel at ddefnydd parhaus. Mae hyn yn achosi perygl o sioc drydan neu dân.

Roedd offer cartref i gael gwared ar flew yn cael eu hysbysebu hefyd gyda phlygiau sy’n anghyfreithlon i’w gwerthu yn y DU. Mae’r plygiau hyn yn fach iawn ac felly mae perygl i’r defnyddiwr ddod i gysylltiad â’r prif gyflenwad trydan wrth roi’r plwg yn y wal. Maent yn dod heb ffiws yn aml hefyd, sy’n golygu bod risg o dân pe bai cylched fer.

Meddai Robert Jervis-Gibbons, Rheolwr Materion Cyhoeddus Electrical Safety First:

“Ar adeg pan mae disgwyl i ni gyd dreulio mwy o amser dan do mae’n bwysicach nag erioed bod y cynhyrchion a ddaw i’n cartrefi’n ddiogel. Rydym wedi dod ar draws enghreifftiau o werthwyr trydydd parti yn rhoi defnyddwyr mewn perygl drwy gynhyrchion sydd o ddiddordeb arbennig ar hyn o bryd. Gyda chymaint o ddefnyddwyr yng Nghymru yn dangos diddordeb yn yr eitemau hyn ar hyn o bryd, byddem yn annog defnyddwyr i brynu cynhyrchion trydan gan adwerthwyr ag enw da yn unig, ac i Lywodraeth Cymru weithredu i godi ymwybyddiaeth y gall prynu eitemau trydanol o farchnadoedd ar-lein arwain at danau yng nghartrefi pobl yng Nghymru.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Elusen yn y DU yw Electrical Safety First sy’n gweithio i leihau ac atal difrod, anafiadau a marwolaethau a achosir gan drydan. Am ragor o wybodaeth, ewch i electricalsafetyfirst.org.uk.
  • Dadansoddwyd lluniau o’r eitemau gan dîm technegol yr elusen a gwelwyd nad oedd y cynhyrchion o safon dderbyniol a/neu eu bod yn beryglus heb yr angen am brynu i brofi.
  • Cysylltodd Electrical Safety First â phob marchnad yn uniongyrchol, gan gynnwys Amazon Marketplace, eBay.co.uk a Wish.com i’w hysbysu bod nad oedd y cynhyrchion o safon dderbyniol a/neu eu bod yn beryglus a gofyn i’r eitemau gael eu tynnu oddi ar y farchnad cyn gynted â phosibl.
  • Cynhaliwyd ymchwil defnyddwyr drwy’r grŵp arolwg Censuswide, gyda sampl o 2009 o oedolion ledled y DU, ac roedd 99 o’r rhain yng Nghymru. Cynhaliwyd ymchwil yn y maes rhwng 11.05.2020 a 12.05.2020. Mae Censuswide yn cyflogi aelodau ac yn cydymffurfio â’r Market Research society sy’n seiliedig ar egwyddorion ESOMAR.

Llun: Daniel Falcao/UnSplash

  • Local News

You may also be interested in

 Paul Einerhand on Unsplash

UK Government support ‘lifeline’ to Welsh shellfish exporters

Wednesday, 20 January, 2021

The Welsh Conservative Shadow Minister for Climate Change, Energy and Rural Affairs – Janet Finch-Saunders MS – has today (20 January) welcomed new financial support for the UK’s fishing businesses, as its announced that seafood exporters will receive government funding of up to £23 million.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree