Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Rydym ni angen Cymru lle gall pob gofalwr ifanc o Gonwy i Gaerdydd gael gafael ar gerdyn Adnabod”

  • Tweet
Thursday, 21 May, 2020
People

Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Plant a Phobl Ifanc yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ymateb i i honiadau nad yw rhai gofalwyr ifanc yn cael mynediad at rai siopau manwerthu, drwy annog Llywodraeth Cymru i wella’r broses o ddosbarthu cardiau adnabod gofalwyr. Yn rhoi sylwadau ar y sefyllfa, dywedodd Mrs Finch-Saunders:

“Mewn ymateb i’r drafodaeth a gyflwynais ar ofalwyr ifanc y llynedd, nododd y Dirprwy Weinidog y byddai cardiau adnabod gofalwyr ifanc yn cael eu cyflwyno’n raddol erbyn diwedd 2019.

“Erbyn diwedd mis Ionawr eleni, dywedodd y Dirprwy Weinidog mai dim ond rhai awdurdodau lleol a fyddai’n cael eu cynnwys yng nghyfnod cyntaf cyflwyno’r cardiau adnabod.

“Nawr rydym yn gweld canlyniad sefyllfa ble mae nifer o ofalwyr heb gardiau adnabod, gyda rhai archfarchnadoedd yn gwrthod mynediad iddynt.

“Mae gan ofalwyr ifanc gyfrifoldeb sylweddol ar eu hysgwyddau, felly mae’n hawdd dychmygu pa mor dorcalonnus ydyw iddyn nhw pan nad yw unigolion yn deall eu rôl.

“Heno, bydd pobl ar draws y Deyrnas Unedig yn curo dwylo ar gyfer gofalwyr, ond rydw i am wneud hynny yn gwybod bod y gwaith wedi dechrau ar gefnogi gofalwyr ifanc.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu fy nghais i ofalwyr di-dâl dderbyn y bonws o £500 o’r blaen, rwy’n galw ar y Dirprwy Weinidog i wella dosbarthiad cardiau adnabod ar unwaith.

“Rydym ni am weld Cymru lle gall pobl gofalwr ifanc o Gonwy i Gaerdydd gael mynediad at gerdyn adnabod.”

DIWEDD

Cwestiynau Ysgrifenedig:

  • A all y Gweinidog nodi pa gamau brys a fydd yn cael eu cymryd i sicrhau bod pob gofalwr ifanc yng Nghymru’n gallu cael gafael ar gerdyn adnabod sy’n egluro ei rôl?
  • A all y Gweinidog ysgrifennu at bob archfarchnad fawr sy’n gweithredu yng Nghymru ar unwaith yn eu hysbysu y dylai gofalwyr ifanc dan 16 oed gael mynediad at y siopau hyn?

Nodiadau:

  • Coronavirus: Young carers 'turned away' from shops in lockdown
  • Young carers ID card set to be phased in by the end of the year
  • Welsh Conservatives Debate: Young Adult Carers (16/5/19)
  • Datganiad Ysgrifenedig: Cardiau adnabod i ofalwyr ifanc
  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree