Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Safbwynt Llywodraeth Cymru ar Osod Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai yn annigonol o ran lles anifeiliaid

  • Tweet
Wednesday, 19 August, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig AS wedi mynd ati heddiw (19 Awst) i gondemnio cynllun cyllido gwirfoddol Llywodraeth Cymru i osod Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai, wrth iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 1 cais llwyddiannus am daliad ariannol a welwyd ers iddo gael ei roi ar waith.

Yn ôl yr wybodaeth a oedd ar gael drwy gais Rhyddid Gwybodaeth, dim ond 8 o geisiadau ar gyfer grantiau gan ladd-dai sydd wedi’u derbyn drwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd. Nod 4 o’r rhaglenni hyn oedd ei gwneud yn bosibl i gael systemau Teledu Cylch Cyfyng neu uwchraddio systemau er mwyn monitro lles anifeiliaid. Ar hyn o bryd, mae 23 o ladd-dai gweithredol yng Nghymru. Roedd yr ystadegau mwyaf diweddar sydd ar gael i’r cyhoedd, a gyhoeddwyd yn 2016, yn awgrymu mai dim ond 8 a oedd ag unrhyw Deledu Cylch Cyfyng. Yn ôl yr adroddiad, roedd y rhain yn cynnwys y 3 safle mwyaf yng Nghymru.

Gan sôn am ddatgeliadau Rhyddid Gwybodaeth, dywedodd Janet:

“Mae’n hollbwysig bod ein hanifeiliaid yn cael eu trin â pharch ag urddas bob amser. Rydw i wedi synnu at y datgeliadau hyn, ac mae’n pwysleisio, unwaith eto, y ffaith bod dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r mater hwn yn annigonol.

“Pan gafodd Gweinidog yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru ei holi am wneud Teledu Cylch Cyfyng yn orfodol, dywedodd ei bod yn credu y dylid ystyried Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai dim ond os oedd dull cwbl wirfoddol yn annigonol.

“I siarad yn blaen, mae’r dull hwn nid yn unig yn annigonol – mae’n fethiant llwyr.

“Bydd Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai yn sicrhau bod camdriniaeth anifeiliaid yn cael ei ganfod yn gyflym a bydd unrhyw achosion yn cael y sylw priodol. Mae’r defnydd o’r dechnoleg hon wedi’i hystyried ers amser maith yn gam pwysig o ran sicrhau bod diogelu lles anifeiliaid ar y lefel uchaf yng Nghymru.

“Mae angen cymryd camau brys er mwyn cywiro’r sefyllfa hon, gan wneud y defnydd o Deledu Cylch Cyfyng yn orfodol mewn ardaloedd allweddol mewn lladd-dai yng Nghymru. Nid yn unig bydd hyn yn golygu y bydd ein deddfwriaeth yn cyd-fynd â deddfwriaeth Lloegr a’r Alban, bydd yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd hefyd bod safonau lles anifeiliaid uchel yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.”

“Bydd Teledu Cylch Cyfyng mewn lladd-dai yn sicrhau bod y camddefnydd o anifeiliaid yn cael ei ganfod yn gyflym ac yn cael ei drin. Mae’r defnydd o’r dechnoleg hwn wedi cael ei ystyried ers amser maith yn gam pwysig wrth sicrhau bod gennym y lefelau uchaf o ddiogelwch ar les anifeiliaid yng Nghymru . “Mae angen cymryd camau brys er mwyn cywiro’r sefyllfa hon, gan wneud y defnydd o Deledu Cylch Cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai yng Nghymru. Nid yn unig bydd hyn yn dod â’n deddfwriaeth yn unol â’r Alban a Lloegr, bydd yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod safonau lles anifeiliaid uchel yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: Cwestiynau ac Atebion Rhyddid Gwybodaeth

  • Faint o grantiau y gwnaethpwyd cais amdanynt dan y cynllun hwn? 8
  • Faint o grantiau y gwnaethpwyd cais amdanynt sydd wedi’u talu i ladd-dai hyd yma? 1
  • Beth yw cyfanswm gwerth y grantiau a dalwyd hyd yma? £2689
  • Faint o grantiau y gwnaethpwyd cais amdanynt hyd yma dan y cynllun hwn yn benodol i’w gwneud yn bosibl i weithredu neu ddiweddaru systemau Teledu Cylch Cyfyng er mwyn monitro lles anifeiliaid?4
  • Faint o grantiau y gwnaethpwyd cais amdanynt hyd yma dan y cynllun hwn yn benodol er mwyn ei gwneud yn bosibl i weithredu neu ddiweddaru systemau Teledu Cylch Cyfyng sydd wedi’u talu hyd yn hyn? Beth yw cyfanswm gwerth y grantiau a delwyd i ladd-dai hyd yma dan y cynllun ar gyfer y diben hwn? £2689
  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree