Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Siom gyda manylion y cyntaf i’r felin y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol

  • Tweet
Wednesday, 14 October, 2020
COVID-19

Heddiw (14 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei siom ar ôl clywed mai’r cyntaf i’r felin fydd hi o ran ceisiadau, wrth i ragor o fanylion am y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol Llywodraeth Cymru ddod i’r fei.

Diben y gronfa hon yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau lleol a roddwyd ar waith yn eu hardal leol. Bydd busnesau yn gymwys i wneud cais am y gronfa hon ar ôl i’w hardal leol fod dan gyfyngiadau am o leiaf 21 diwrnod. Mae busnesau wedi’u hysbysu y bydd yn rhaid iddynt ddangos gostyngiad mewn trosiant o fwy na 40% yn sgil y cyfyngiadau lleol a roddwyd yn sgil Covid-19 i fod yn gymwys am y grantiau hyn.

Gan siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Janet:

“Ar ôl aros dros bythefnos am fanylion pellach, siom oedd gweld y bydd y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol yn cael ei gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfaddef y gallai hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl eu cyflwyno os bydd y gronfa wedi’i gwacau.

“Mae’n amlwg nad yw gweinyddiaeth Mark Drakeford wedi dysgu’r un iot o’r camgymeriadau a wnaed yn gynharach eleni, pan wynebodd grantiau lifeiriant o geisiadau ar unwaith a arweiniodd at ddryswch diangen, camgymeriadau a gofid i sawl perchennog busnes yn y Gogledd. Allwn ni ddim caniatáu i hyn ddigwydd eto.

“Ar ôl edrych ymhellach ar y cymorth a gynigir gan y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Lleol, gyda grantiau o £1,000 i £1,500 yn cael eu cynnig i fusnesau cymwys, mae’n amlwg bod hyn fel newid mân yn unig o gymharu â’r hyn sydd ei angen i atal preswylwyr lleol rhag colli eu bywoliaethau.

“Mae’n rhaid i Weinidog yr Economi adolygu’r penderfyniad i ddeddfu terfyn gwerth ardrethol o £51,000. Wedi’r cwbl, mae gan Landudno nifer o westai a fydd yn cael eu heithrio o’r cymorth ariannol hollbwysig hwn os na fydd y terfyn hwn yn cael ei ddiddymu.

“Llywodraeth Cymru sydd wedi ein llusgo i’r argyfwng economaidd hwn, felly mae angen iddynt fynd ati i gynnig y cymorth ariannol angenrheidiol a fyddai’n galluogi busnesau lleol i oroesi a phontio’r cyfnod hwn.” 

“Tra bod Skates wedi bod yn ysgrifennu llythyrau i fusnesau yn erfyn arnynt i helpu i greu iwtopia sosialaidd, mae o wedi colli ei afael ar realiti. Ydy o wir yn credu mai dim ond busnesau sydd wedi bod dan gyfyngiadau lleol am dair wythnos neu fwy sydd angen cymorth ariannol?”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree