Ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod gofyn i’r siopau sy’n cael agor gydol y cyfnod atal byr o 17 diwrnod werthu ‘eitemau hanfodol’ yn unig, mae Janet Finch-Saunders AS - Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach - wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ymyrryd yn rhy bell a drysu llawer o berchnogion siopa, gan eu rhoi mewn perygl o gael eu cam-drin. Yn y cyfamser, mae Darren Millar AS, Gweinidog Adfer Covid yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, wedi labelu’r cam fel rhyw fath o reoli gwirion sydd wedi mynd dros ben llestri.
Mae’r Gymdeithas Siopau Cyfleustra a Chonsortiwm Manwerthu Cymru wedi ysgrifennu ar frys at y Prif Weinidog, yn mynegi eu pryder am y rheolau newydd. Mae manwerthwyr yn dweud nad ydynt wedi derbyn diffiniad o’r hyn sy’n hanfodol.
Gan roi sylwadau ar bryder perchnogion siopau cyfleustra, dywedodd Janet:
“Mae sylwadau’r Prif Weinidog yn peri gofid mawr i mi, gan nad ydyn nhw’n ddim mwy nag ymyrryd annoeth. Ers y cyhoeddiad am y cyfnod atal byr ddydd Llun, mae cyfathrebu trychinebus Llywodraeth Cymru wedi drysu perchnogion busnesau yn barhaus a’u rhoi mewn perygl parhaus o orfod cau.
“Mae cyhoeddi cyfyngiad mympwyol ar werthu cynhyrchion nad ydynt yn rhai hanfodol gyda rhybudd o lai na 36 awr yn gwbl annheg, gan roi mwy o bwysau diangen ar ein busnesau bach a rhoi’r gweithwyr rheng flaen hyn mewn risg go iawn o ddioddef camdriniaeth. Dylen ni sefyll gyda’n busnesau a pheidio â rhoi mwy o rwystrau o’u blaenau.
“Dengys ymchwil gan Which bod bron i hanner y preswylwyr a ddisgrifiodd eu hunain fel ‘mewn sefyllfa fregus’ yng Nghymru yn ystod y clo blaenorol yn cael anhawster cael gafael ar y bwydydd sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy’n bryderus y bydd y sefyllfa hon yn codi eto yn sgil y dryswch hwn.
“Gydag ail gyfnod clo cenedlaethol yn anochel yng Nghymru, mae’n gwbl annerbyniol nad yw siopau bach ein gwlad yn gwybod o hyd beth maen nhw’n cael a ddim yn cael ei werthu. Dylent allu gweithredu’n llawn, heb ragfarn gan y wladwriaeth ymyrrol hon. Mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ailystyried y strategaeth hon ar unwaith.”
Gan ychwanegu at ei sylwadau ei hun, dywedodd Darren Millar AS, Gweinidog Adfer Covid yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig:
"Mae hyn yn enghraifft o reoli gwirion sydd wedi mynd dros ben llestri.
"Ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn mwynhau dwyn rhyddid pobl a dweud wrthyn nhw beth maen nhw’n cael ei wneud a ddim yn cael ei wneud. Nawr maen nhw’n dweud wrth fusnesau beth maen nhw’n cael a ddim yn cael ei werthu, mae’r holl beth yn gwbl hurt.”
DIWEDD
Ffoto: Mike Petrucci/UnSplash