Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Y gogledd-orllewin: Llywodraeth Cymru ac Argyfwng Cynhyrchiant

  • Tweet
Thursday, 8 February, 2018
GVA

O ystyried mai cynhyrchiant llafur yw un o’r prif fesurau a ddefnyddir i fesur perfformiad economaidd, mae Janet Finch-Saunders AC wedi sôn am ‘argyfwng cynhyrchiant’ yn y gogledd-orllewin ar ôl canfod bod ei werth ychwanegol gros fesul awr a weithiwyd yn 2016 28% yn is na chyfartaledd y DU.

Ar ôl Powys, roedd gan y tri chategori yn y gogledd-orllewin y lefel cynhyrchiant isaf yng Nghymru: Conwy a Sir Ddinbych - 27.6% ar ei hôl hi; Ynys Môn – 27.8 ar ei hôl hi; a Gwynedd – 28.6 ar ei hôl hi.

Meddai Janet:

“Mae difrifoldeb y sefyllfa’n amlwg wrth ystyried, yn ogystal â bod gan y gogledd-orllewin rai o’r lefelau cynhyrchiant isaf yng Nghymru, mai Cymru ei hun oedd â’r lefel cynhyrchiant isaf o blith gwledydd a rhanbarthau y DU yn 2016: 17% yn is na chyfartaledd y DU.

“Wrth edrych ar y ffigurau hyn nid oes amheuaeth ar ôl 19 blynedd o fod mewn grym yn Llywodraeth Cymru bod Llafur Cymru’n methu economi Cymru, a’r gogledd-orllewin yn enwedig.

“Fis Tachwedd y llynedd, galwais ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i annog twf economaidd a hyder ymysg busnesau yn y gogledd-orllewin drwy lunio strategaeth ar gyfer y rhanbarth.

“Mae angen strategaeth gref gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gogledd-orllewin nawr yn fwy nag erioed, er mwyn hybu twf economaidd a mynd i’r afael â’r argyfwng cynhyrchiant”.

Ffigur:

Gwerth ychwanegol gros fesul awr a weithwyd – Is-ranbarthau NUTS3 yng Nghymru, prisiau cyfredol, wedi’u llyfnhau 2016

AC yn galw am fwy o gymorth i fusnesau yn y gogledd-orllewin ar ôl canfod mai yno mai’r enillion wythnosol gros isaf ar gyfartaledd yng Nghymru

Gwerth ychwanegol gros fesul awr a weithiwyd – Is-ranbarthau NUTS3 yng Nghymru, prisiau cyfredol, wedi’u llyfnhau 2016

 

Attachments

Attachment Size
Gross value added per hour worked – NUTS3 sub-regions in Wales, smoothed, current prices, 2016_0.jpg 39.21 KB
  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree