Heddiw (22 Chwefror), siaradodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog yr Amgylchedd yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - am ei phryder am y diffyg tystiolaeth wyddonol glir a ddefnyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru i bennu’r effaith y bydd carthu yn ei chael ar Afon Conwy.
Wrth ymateb i adroddiad llifogydd lleol yr Aelod y llynedd, dywedodd asiantaeth Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud penderfyniadau ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r risg ar sail pob achos yn unigol, gan ddefnyddio gwybodaeth beirianyddol a thystiolaeth o sut mae pob afon yn ymateb “i sicrhau ein bod yn rhoi’r gwerth gorau i’r trethdalwr”. Ar y pryd, roedden nhw’n honni eu bod wedi pennu y byddai difrifoldeb y digwyddiad a swm y dŵr a gafwyd yn y digwyddiadau llifogydd diweddar wedi bod yn ormod i unrhyw sianel a fyddai wedi’i hagor ar ôl tynnu silt yn Nolgarrog.
Mewn ymateb i lythyr a anfonwyd yn gynt yn y mis, am bryderon lleol am y silt a oedd yn casglu ar wely’r afon, mae CNC wedi dweud:
“Ni allwn gyfiawnhau defnyddio ein hadnoddau prin i bennu effaith carthu eang, yn enwedig gan fod cyllid ein rhaglen gynnal a chadw yn seiliedig ar ei effaith ar lifogydd i bobl ac eiddo.”
Mae Mrs Finch-Saunders eto wedi galw am esboniad brys ynghylch pa adolygiadau gwyddonol o effaith diweddar sydd wedi’u cynnal gan yr asiantaeth i bennu pa effaith y bydd carthu’r afon yn ei chael.
Gan roi sylw ar yr angen am eglurder, dywedodd Janet:
“O ystyried awgrym blaenorol y sefydliad bod penderfyniadau ar y ffordd orau o fynd i’r afael â’r risg hon wedi’u gwneud ar sail unigol a fesul achos, a wnaed mewn perthynas â’m hadroddiad ar lifogydd 2020, teimlais ei bod yn bwysig sefydlu ar ba sail y gwnaed y penderfyniad pwysig hwn.
“Rydw i wedi fy siomi’n fawr ar ôl derbyn ymateb sy’n awgrymu nad oes unrhyw adolygiad gwyddonol o effaith wedi’i gynnal yn ddiweddar i garthu ar Afon Conwy, yn sgil prinder adnoddau.
“Mae hyn yn groes i’w honiad yn fy adroddiad llifogydd ac yn tanseilio’r ymddiriedaeth y mae trigolion Dyffryn Conwy wedi'i rhoi yn yr asiantaeth i sicrhau diogelwch rhag llifogydd. Rydw i wir yn credu bod gan y tîm yn CNC fwriadau da, ond eu bod wedi’u llethu.
“Amcangyfrifir bod angen hyd at 70 aelod o staff ychwanegol i gynnal y gwasanaeth cyffredinol ar y lefelau a ddisgrifir gan y camau a’r gwelliannau yn adroddiad Llifogydd yng Nghymru Chwefror 2020, ond mae’r cyllid sydd wedi’i dderbyn ond yn medru cyflogi hyd at 36 gweithiwr llawn amser cyfwerth - sef hanner yr hyn sydd ei angen.
“Rwy’n erfyn eto ar CNC i ddarparu’r dystiolaeth beirianyddol a gwyddonol a ddefnyddiwyd i nodi’n flaenorol y byddai difrifoldeb y digwyddiad a swm y dŵr a gafwyd yn y llifogydd diweddar wedi bod yn ormod i unrhyw sianel a fyddai wedi’i hagor ar ôl tynnu silt yn Nolgarrog”.
DIWEDD