Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Surveys/Holiaduron
  • Senedd Cymru
  • Surgeries/Cymorthfeydd
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ymgynghoriad ar welliannau'r A470 Glan Conwy

  • Tweet
Monday, 29 March, 2021
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw, mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi croesawu'r ffaith y bydd bwriad i beintio llinellau melyn ar hyd yr A470 yng Nglan Conwy yn destun ymgynghoriad.

Daw'r datblygiad cadarnhaol hwn yn dilyn llythyr a anfonwyd gan yr Aelod at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn gofyn am eglurder ynghylch cynlluniau ar gyfer yr A470 tua'r gogledd yng Nglan Conwy.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â phroblemau gwelededd, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cynigion ar gyfer marciau ffordd newydd hyd ochr ogleddol yr A470 yng Nglan Conwy, ger Benarth Court.

Wrth sôn am y cynnig ac ymateb y Gweinidog, dywedodd Janet:

“Fel ymgyrchydd brwd dros ddiogelwch priffyrdd, rwy'n croesawu camau i wella gwelededd ar hyd yr A470 yng Nglan Conwy.

“O ystyried pryderon parcio, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi ymrwymo i gadw hyd y cyfyngiadau mor isel â phosibl er mwyn lleihau nifer y llefydd parcio a gollir.

“Bydd y newid arfaethedig yn effeithio'n uniongyrchol ar nifer o drigolion ac unigolion lleol sy'n gyrru drwy'r pentref, felly mae'n hanfodol cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig. Bydd yn cael ei gynnal yr haf hwn.

“Yn dilyn y problemau gyda'r groesfan sebra, mae trigolion Glan Conwy yn gwybod yn iawn nad ydi gwelliannau priffyrdd Llywodraeth Cymru bob amser yn gweithio fel y dylai, felly rwy'n annog pawb i gael golwg ar y dyluniad.”

DIWEDD

  • Local News

You may also be interested in

Glan Conwy

Consultation Planned for A470 Improvements in Glan Conwy

Monday, 29 March, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has today welcomed the fact that proposed yellow lines along the A470 in Glan Conwy are to be subject to a consultation.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders MS/AS, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree