Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ymgyrch: Clirio Llwybr Arfordir Cymru

  • Tweet
Monday, 7 October, 2019
West Shore

Mae ymgyrch wedi dechrau i glirio darn o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Deganwy a Llandudno. Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, sydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ailystyried y penderfyniad i beidio â chynnal y llwybr.

 

Wrth drafod yr ymgyrch, meddai Janet:  

 

“Mae llwybr yr arfordir yn drysor, ac rydym yn ffodus bod cymunedau ar hyd arfordir Aberconwy yn gallu manteisio arno.  

 

“Yma yng Nghymru, dylem ymfalchïo yn y ffaith ein bod wedi datblygu’r llwybr di-dor cyntaf ar hyd arfordir cenedlaethol. Fodd bynnag, mae angen gweithio ar un darn o’r llwybr.

 

“Mae etholwyr o bob rhan o’r etholaeth wedi bod yn cwyno am gyflwr y llwybr rhwng Deganwy a Phen Morfa.

 

“Ar hyn o bryd, nid yw pobl mewn cadeiriau olwyn yn gallu defnyddio’r llwybr, ac mae’r holl dywod ar y llwybr yn rhwystro pobl.

 

“Fe ges i wybod gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fod y penderfyniad i gyfyngu ar y gwaith cynnal a chadw ar y darn hwn yn rhan o gamau gweithredu ein Llywodraeth Leol i fod yn garbon bositif.

 

“Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond rwy’n methu gweld sut mae esgeuluso’r llwybr yn mynd i gyfrannu’n sylweddol at y nod.

 

“Yn yr un modd, mae pwyslais y Gweinidog ar y ffaith fod dewisiadau’n cael eu hystyried yn ystod cam dylunio manwl cynlluniau lliniaru llifogydd yn Llandudno yn gamarweiniol gan y bydd angen cryn amser i gytuno ar yr atebion hyn a’u gweithredu o bosibl.

 

“Mae’n rhaid i’r llwybr aros ar agor ac mae angen adfer mynediad cyfartal iddo, felly rwyf wedi gofyn i Gyngor Sir Conwy ystyried y llwybr a chymryd camau nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon eu cymryd”.

 

 

DIWEDD

 

Cwestiwn ysgrifenedig at ateb yn y Cynulliad:

 

Janet Finch-Saunders:

 

A fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ynglŷn â’r ffaith fod Llwybr Arfordir y Gogledd wedi’i orchuddio â thywod rhwng Llandudno a Deganwy, ac egluro a fydd unrhyw gamau’n cael eu cymryd i glirio’r briffordd? WAQ78788 (e)

 

Hannah Blythyn AC:

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penderfynu cyfyngu ar waith cynnal a chadw ar y darn hwn o Lwybr Arfordir Cymru fel rhan o’i gamau gweithredu i fod yn garbon bositif. Dylid nodi nad yw’r darn hwn o Lwybr Arfordir Cymru yn briffordd gyfreithiol, sy’n golygu nad yw wedi’i rheoleiddio gan Ddeddf Priffyrdd 1980.

 

Yn ddiweddar, mae Rhaglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru wedi ariannu llwybr seiclo ar gyfer defnyddwyr gwahanol sy’n gwbl hygyrch ac sydd wrth ymyl llwybr yr arfordir sy’n cysylltu Deganwy a Llandudno (Pen Morfa).     Hefyd, mae Hawl Dramwy Gyhoeddus ar gael ger llwybr yr arfordir trwy’r cwrs golff sy’n ffinio â’r twyni tywod. 

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddarparu llwybr mwy addas ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, a bydd yn ystyried dewisiadau yn ystod cam dylunio manwl y cynlluniau lliniaru llifogydd sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd ar gyfer morlin Llandudno.

 

Nodiadau:

 

Llwybr Arfordir Cymru

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree